Newyddion

Ben Lake AS yn ymuno â Scope mewn llythyr trawsbleidiol at y Canghellor

Mae Ben Lake AS ynghyd â'r elusen cydraddoldeb anabledd Scope a 40 o ASau Trawsbleidiol ac Arglwyddi wedi ysgrifennu at y Canghellor heddiw yn galw am fwy o gymorth gyda chostau byw.

Mae'r llythyr, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan gynrychiolwyr o'r holl brif bleidiau ar draws y Senedd, yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno tariff cymdeithasol a dwyn ymlaen daliadau costau byw’r gaeaf hwn. Mae ASau a’r Arglwyddi wedi ymuno gyda'i gilydd i anfon neges glir i'r Canghellor, mae angen mwy o gymorth wrth y Llywodraeth ar bobl anabl yng Ngheredigion.

Darllenwch fwy
Rhannu

Cynrychiolwyr lleol yn ymateb i ostyngiad mewn gwasanaethau bysus gwledig

Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS wedi mynegi eu pryderon am y gostyngiadau yng ngwasanaethau bysiau gwledig ledled Ceredigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a gweithredwyr bysiau masnachol i gydweithio i ddod o hyd ffyrdd i gynnal gwasanaethau bws yn y cyfnod hwn o gyllidebau llai.

Darllenwch fwy
Rhannu

Oedi i’r gefnogaeth ynni i’r rhai sydd ddim ar y grid yn 'hollol afresymol' – Plaid Cymru

Does dim lle i oedi pellach cyn gwneud taliadau sydd wedi’u haddo ers Medi 2022, meddai Ben Lake AS

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys ac AS Ceredigion, Ben Lake, wedi dweud heddiw (dydd Iau 26 Ionawr) ei bod yn "hollol afresymol" bod aelwydydd gwledig yn dal i aros am gymorth biliau ynni a addawyd ers Medi 2022.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU, Ceredigion yw'r awdurdod lleol sydd fwyaf dibynnol ar danwyddau amgen, fel olew gwresogi ac LPG, ar dir mawr Prydain - sef 74 y cant.

Darllenwch fwy
Rhannu

Ffyniant Bro: Cymru yn ddibynnol ar nawdd ‘ad-hoc’ yn ‘sarhaus’ – Ben Lake AS

Mae Cymru wedi colli £1.1bn mewn cymhariaeth â nawdd yr UE a gwariant y pen llywodraeth leol wedi gostwng 9.4% dros ddegawd – Plaid Cymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru y Trysorlys, Ben Lake AS wedi beirniadu methodoleg Llywdraeth y DU ar ddyranu nawdd drwy gynllun Y Gronfa Ffyniant Bro, gan ei ddisgrifio yn “fympwyol ac ad-hoc”.

Mae Ceredigion, etholaeth Mr Lake, ymysg 11 awdurdod lleol Cymreig sydd heb dderbyn nawdd fel rhan o gyhoeddiad heddiw, er bod ardaloedd cyfoethocach fel Richmond yn Swydd Efrog, etholaeth Rishi Sunak, wedi derbyn nawdd.

Darllenwch fwy
Rhannu

Cymunedau gwledig yn dioddef gwaethaf yn sgil yr argyfwng costau byw” meddai AS Ceredigion

Mae Ben Lake AS wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ail gylch o gyllid ychwanegol er mwyn darparu cefnogaeth i adeiladau sydd heb eu cysylltu â’r rhwydwaith cenedlaethol cyn y gaeaf nesaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddu bydd y gefnogaeth ar gyfer cartrefi a busnesau sydd â chysylltiad â’r rhwydwaith yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, er ar gyfradd is, ond ymddengys bod disgwyl i’r un taliad ar gyfer cartrefi sydd heb eu cysylltu â’r grid cenedlaethol barhau am y 18 mis llawn.

Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cyhoeddi y bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei ymestyn hyd 2024. O Ebrill 2023, bydd cost ynni blynyddol cartref nodweddiadol yn codi i £3,000; amcan arbediad o £500 o’i gymharu â chap pris disgwyliedig Ofgem. Does dim cefnogaeth gyfwerth ar gyfer adeiladau sydd heb eu cysylltu â’r grid.

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Ceredigion yn cefnogi gwlân Cymraeg yn y Senedd

Roedd Elin Jones AS dros Geredigion yn falch o gael mynychu digwyddiad arbennig drefnwyd gan Cynghrair Gwlan Cymreig yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Darllenwch fwy
Rhannu

Ben Lake AS yn ailadrodd galwadau am gymorth brys i gartrefi a busnesau oddi ar y grid

Unwaith eto, mae AS Ceredigion wedi annog Llywodraeth y DU i roi eglurder am  y taliad un tro a addawyd i gartrefi a busnesau'r DU sydd ddim ar y grid prif gyflenwad nwy, ac felly'n dibynnu ar olew gwresogi, nwy LPG, a thanwydd arall i wresogi eu cartrefi. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd taliad un tro o £100 yn cael ei wneud i gartrefi sydd ddim ar y grid ac y bydd y taliad yn sicrhau nad yw cwsmer sy'n defnyddio tanwydd arall yn wynebu cyfradd uwch o dwf yn eu costau gwresogi ers gaeaf diwethaf, o gymharu â'r rhai sy'n defnyddio nwy prif gyflenwad sy'n cael eu cefnogi gan y Warant Prisiau Ynni. 

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Plaid Cymru yn rhybuddio am “wyrddgalchu” gan gynlluniau gwrthbwyso carbon

Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion, wedi rhybuddio Llywodraeth y DU bod “tir amaethyddol ffrwythlon” yn cael ei werthu i gorfforaethau gyda’r bwriad o wyrddgalchu eu hallyriadau yn hytrach na bwriad dilys i ostwng ei hôl troed carbon.

Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar y "National Food Strategy and Food Security", amlygodd Ben Lake AS fod y Green Finance Observatory wedi mynegi pryderon am gynlluniau o’r fath, gan rybuddio eu bod yn y bôn ar gyfer galluogi allyriadau'r dyfodol, am ddiogelu twf economaidd ac elw corfforaethol yn hytrach na lliniaru newid hinsawdd, neu hyd yn oed ar gyfer ddileu allyriadau'r gorffennol.

Darllenwch fwy
Rhannu

Clinigau Costau Byw er mwyn helpu etholwyr y gaeaf hwn

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake ac Aelod y Senedd, Elin Jones yn cynnal dau sesiwn galw heibio er mwyn rhoi cyfle i etholwyr chwilio am gyngor a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd nifer o sefydliadau, gan gynnwys cyflenwyr ynni a chyrff elusennol yn bresennol yn y clinigau yma, a byddant yn cael eu cynnal yn:

  • Hwb Cymunedol Penparcau, dydd Iau, 10fed o Dachwedd 2022 rhwng 12.30pm a 2.30pn
  • Ystafell Radley, Neuadd y Dref, Aberteifi, dydd Gwener 18fed o Dachwedd 2022 rhwng 12.00pm a 2.00pm

Darllenwch fwy
Rhannu

AS yn croesawi buddsoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu mewn Teledu Cylch Cyfyng

Mae Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cadarnhau y bydd camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol yn cael eu gosod yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch Safer Streets y Comisiynydd.

Mae’r Comisiynydd wedi sicrhau cyllid o gronfa Safer Streets y Swyddfa Gartref i ariannu gosod camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol ger Traeth y De, Aberystwyth fel ymyriad i leihau digwyddiadau yn cynnwys camddefnydd cyffuriau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref, yn dilyn codi pryderon gan drigolion lleol yn ystod y misoedd diwethaf.

Darllenwch fwy
Rhannu

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.

Ymgyrchoedd