Yr ymdrech olaf un i achub gwasanaeth hanfodol Bwcabus
Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi gwneud un ymdrech olaf i annog Llywodraeth Cymru i achub gwasanaeth hanfodol y Bwcabus Fflecsi, sydd i fod i ddod i ben 31 Hydref 2023.
Mae’r Bwcabus Fflecsi (Bwcabus gynt) wedi bod yn rhedeg ers 14 mlynedd ac wedi gwasanaethu rhannau gwledig o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. I’r trigolion hynny sydd heb geir, neu sydd heb fynediad at brif rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, mae’r Bwcabus yn darparu gwasanaeth hanfodol i gyrraedd pentrefi a threfi eraill ar gyfer gwaith, siopa a thriniaeth feddygol.
Is-etholiad Penparcau: Cyhoeddi Shelley Childs fel ymgeisydd Plaid Cymru
Llongyfarchiadau gwresog i Shelley Childs am gael ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad ward Aberystwyth Penparcau. Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar yr ddydd Iau, yr 16eg o Dachwedd.
Mae Shelley wedi byw a gweithio ym Mhenparcau ers blynyddoedd maith ac mae’n adnabyddus yn ei filltir sgwâr. Yn yr un modd, mae’n adnabod ei ardal i'r dim ac yn ymwybodol o’r heriau mae trigolion Penparcau yn eu hwynebu.
Cyfarfod Bwcabus
Dyma gyfle i drafod dyfodol cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig gydag Elin Jones AS, Ben Lake AS, Dolen Teifi yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol.
“Nid argyfwng costau byw mohono, ond argyfwng trachwant”
Nid oes modd cyfiawnhau ‘anfoesoldeb’ trachwant corfforaethol, medd Ben Lake AS, Llefarydd y Trysorlys Plaid Cymru.
Mae AS Plaid Cymru dros Geredigion a llefarydd y Trysorlys ar ran y blaid, Ben Lake AS, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu methiant i fynd i’r afael â’r argyfwng trachwant yma.
“Mwy na bws” - Apêl y Senedd i achub gwasanaeth hanfodol Bwcabws
Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi arwain galwadau brys yn y Senedd am gyllid i adfer gwasanaeth Fflecsi Bwcabws wedi’r cyhoeddiad bod y gwasanaeth am ddod i ben ar Hydref 31ain.
Mae’r Fflecsi Bwcabws wedi bod yn rhedeg ers 14 o flynyddoedd, yn gwasanaethu ardaloedd gwledig yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. I’r rheiny sydd heb fynediad at geir na’r prif wasanaeth drafnidiaeth, mae’r Fflecsi Bwcabws yn darparu gwasanaeth hanfodol i'w galluogi i gyrraedd pentrefi a threfi eraill er mwyn gweithio, siopa a chael triniaeth feddygol.
Cyhoeddiad Bwcabws Fflecsi yn ergyd fawr i’n cymunedau gwledig
Ddydd Gwener diwethaf bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bydd gwasanaeth Fflecsi Bwcabws yn gorffen diwedd mis Hydref eleni, oherwydd diffyg arian.
Ben Lake yn lansio ymgyrch etholiadol yng Nghrymych
Lansiodd Ben Lake ei ymgyrch etholiadol yng Nghlwb Rygbi Crymych nos Iau a chyfarfu ag ystafell orlawn o gefnogwyr i amlinellu ei flaenoriaethau fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd newydd Preseli Ceredigion.
Mae Ben Lake wedi cynrychioli Ceredigion yn San Steffan ers 2017, gan gynyddu ei fwyafrif yn etholiad 2019 i 6,329 o bleidleisiau.
Ben Lake AS yn cyhuddo Llywodraeth y DU o atal gweithredu ar yr hinsawdd wrth i brosiect gwynt fethu derbyn cefnogaeth
Diffyg cynllunio gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar brosiect fferm wynt Sir Benfro
Rhybuddiodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd yn San Steffan heddiw (dydd Gwener 8 Medi) bod Llywodraeth Geidwadol y DU “yn atal ein hymdrechion hinsawdd” ar ôl methu sicrhau “cyfle amhrisiadwy allai hybu economi de-orllewin Cymru.”
Ynni rhatach a glanach? Rhoi grym yn nwylo ein cymunedau yw’r ateb yn ôl Ben Lake AS
Mae Ben Lake wedi galw am fwy o hawliau i gynlluniau ynni cymunedol werthu’r pŵer y maent yn ei gynhyrchu yn uniongyrchol i gwsmeriaid lleol.
Mae trydan yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau ynni adnewyddol megis gwynt a solar ar draws Cymru. Mae mudiadau amrywiol a gwirfoddolwyr yn rhedeg cynlluniau ynni cymunedol ond ar hyn o bryd, mae’n amhosib prynu’r trydan hwnnw’n uniongyrchol, hyd yn oed pan gaiff ei gynhyrchu’n lleol. Mae’n rhaid i’r ynni hwnnw gael ei brynu trwy gwmnïau cyfleustodau sydd â chysylltiad â’r Grid Cenedlaethol. Mae Ben Lake yn galw am fwy o hawliau i gynlluniau o’r fath i gyflenwi defnyddwyr lleol â thrydan y mae modd iddynt brynu’n uniongyrchol o’u hardal.
Ben Lake AS yn galw am adolygiad brys ar Lwfans Taliadau Milltiredd
Mae AS Ceredigion wedi gosod cynnig seneddol yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad brys ar y Lwfans Taliadau Milltiredd ac i ddileu'r cap sy’n gweld gyrwyr yn derbyn cyfradd is os ydynt yn gyrru mwy na 10,000 o filltiroedd mewn blwyddyn dreth.
Mae cyfraddau milltiredd cymeradwy yn cael ei gosod gan CThEF, ond ar hyn o bryd does dim cyfrifiad penodol yn cael ei defnyddio er mwyn gosod y cyfraddau yma. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y cyfraddau yn benderfyniad polisi sy’n cael ei wneud ar ôl ystyried pethau fel cost moduro, y gost i’r pwrs cyhoeddus o newid y cyfraddau a’r sefyllfa gyllidol gyflawn.