Mae'r porth Taliad Tanwydd Amgen wedi agor yr wythnos hon ar gyfer derbyn ceisiadau wrth berchnogion eiddo sydd ddim ar y prif grid nwy os nad ydynt wedi derbyn eu taliad o £200 yn awtomatig.
Mae pob eiddo sydd ddim ar y prif grid nwy ac sy’n defnyddio ffynonellau erial i gynhesu eu heiddo yn gymwys i dderbyn y Taliad Tanwydd Amgen.
Mae disgwyl i gartrefi sydd ddim mewn cyswllt uniongyrchol gyda’u cyflenwr trydan, neu gartrefi mewn ardal lle mae mwyafrif yr eiddo o fewn y cod post wedi’u cysylltu â’r prif grid nwy wneud cais am y Taliad Tanwydd Amgen drwy borth ar-lein.
Mae wedi dod i’r amlwg ers agor y porth ar-lein bod angen i rai cartrefi sydd â chyswllt uniongyrchol gyda’u cyflenwr trydan wneud cais am gefnogaeth, am nad yw manylion rhai codau post wedi’u rhoi i gwmniau ynni. Mae Ben Lake AS yn annog pob eiddo sydd heb dderbyn y taliad o £200 a sydd ddim ar y prif grid nwy i gysylltu gyda’i cyflenwr ynni i weld os oes angen iddynt wneud cais.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Nid yw’n deg bod etholwyr sydd wedi gorfod ymgeisio am gymorth drwy’r porth ddim yn cael taliad am eu bod wedi prynu peth tanwydd cyn Medi 2022, tra bo eraill yn derbyn taliad yn awtomatig.
“Rwy’n gobeithio bydd Llywodraeth y DU yn deall bod angen bod yn ddoeth gyda’r achosion yma, a sicrhau nad yw pobl yn methu derbyn taliad sy’n ddyledus iddynt oherwydd dyddiad cau mympwyol.”
“Pryder arall sydd gennyf yw bod manylion cod post nifer o gartrefi yng Ngheredigion, sydd ddim ar y prif grid nwy, heb eu trosglwyddo i’r cwmnïau ynni am resymau amrywiol, ac felly nid ydynt wedi derbyn y Taliad Tanwydd Amgen yn awtomatig.”
“Rwy’n poeni y bydd y rheiny y sydd â chyswllt uniongyrchol gyda chyflenwr ynni yn cymryd yn ganiataol y byddant yn derbyn taliadau yn awtomatig, yn unol â chyngor Llywodraeth y DU. Mae wedi dod i’r amlwg nawr y bydd yn rhaid i rai wneud cais, ac felly rwy’n cymell pawb sydd mewn cartref yng Ngheredigion sydd ddim ar y prif grid nwy i gysylltu gyda’u cyflenwr ynni os nad ydynt wedi derbyn taliad eisoes er mwyn cadarnhau ei sefyllfa a gweld os oes angen gwneud cais drwy’r porth ar-lein.”
“Mae’n hanfodol bod i’r llywodraeth yn gweithredu ar frys i sicrhau bod pawb sydd angen gwneud cais yn gwybod hynny cyn i’r cynllun ddod i ben.”
Dangos 1 ymateb