Mewn lansiad digwyddiad, roedd ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion yn rhan ganolog o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd.
Roedd Elin Jones AS yn falch iawn fod y ffoaduriaid o Syria a’r Wcráin, sydd wedi derbyn croeso cynnes yng Ngheredigion, yn rhan o’r digwyddiad. Bu Ghofran Hamza, Latifa Najjar a Batool Abid Raza o Syria a’r Dwyrain Canol, ynghyd â Krystyna Makar o’r Wcráin, yn siarad am eu profiadau o symud i Gymru, ac i Geredigion, a sut maen nhw wedi gallu datblygu eu gwaith yma.
Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn bleser ac yn fraint cael gwrando ar Khrystyna Makar, cantores wnaeth ddianc o’r Wcráin i Gymru, yn canu Anfonaf Angel yn Gymraeg yn y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Daeth Khrystyna a’i dau fab i ganolfan croeso’r Urdd yn Llangrannog flwyddyn ddiwethaf, ac mae nawr yn byw yn Aberystwyth. Roedd ei chan mor arbennig, yn enwedig o ystyried fod ei rhieni a’i gŵr dal yn yr Wcráin.
Dwi mor browd o Geredigion, am ddarparu lloches ddiogel i’r rheini sy’n ffoi o ryfel a thrais, ac mae nifer o’n ffoaduriaid yn cyfrannu yn sylweddol i’n cymdeithas ac yn cyfoethogi’n bywydau. Mae Cymru wirioneddol yn noddfa.”
Dangos 1 ymateb