Polisi Preifatrwydd

CYFEIRIADAU IP A DATA FFEIL Y LOG

Nid yw gwefan Plaid Cymru yn dal nac yn storio yn awtomatig wybodaeth bersonol, ar wahân i logio cyfeiriad IP y defnyddiwr neu’ch rhwydwaith ar y Rhyngrwyd. Byddwn hefyd yn defnyddio cyfeiriadau IP i olrhain pa dudalennau y bydd pobl yn ymweld â hwy gan ddefnyddio dadansoddeg fel rhan o’n gwaith cyson i wella ein gwasanaeth.

CASGLU A DEFNYDDIO DATA

Efallai y gofynnir i chi am wybodaeth bersonol os ydych eisiau derbyn un o’n llythyrau newyddion, llenwi ffurflen neu lofnodi deiseb. Gweler isod y wybodaeth y byddwn yn gofyn amdano ac i beth y defnyddir y wybodaeth hon.

Ym mhob achos, defnyddiwn y wybodaeth amdanoch yn unig at y diben y byddwch chi’n ei ddarparu. Mae gwybodaeth bersonol a gyflwynwch chi ar wefan Plaid Cymru yn cael ei storio ar weinyddion diogel. O bryd i’w gilydd, er mwyn ateb eich cais fel yr amlinellwyd isod, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth bersonol a gyflwynir gennych atom i wledydd neu awdurdodaethau y tu allan i’r EEA. Yr ydym yn cydymffurfio â chyllun Safe Harbor, sy’n cael ei gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd fel un sy’n rhoi gwarchodaeth ddigonol i hawliau unigolion data yng nghyswllt trosglwyddo eu data personol i’r sawl sydd wedi llofnodi’r cynllun yn UDA. Ni fyddwn fyth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw fudiad arall y tu allan i Blaid Cymru.

Galwch symud neu newid eich manylion ar unrhyw adeg. Mae gennych hawl i fynd at eich gwybodaeth bersonol a ddelir ar ein ffeiliau trwy wneud cais ysgrifenedig at y swyddog diogelu data (cyfeiriad isod) ac wedi talu ffi weinyddu.

COFRESTRU SAFLE A GWASANAETH E-BOST

Pan fyddwch yn cofrestru ar y safle neu yn tanysgrifio i’n e-byst, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth gyswllt (megis eich enw a’ch cyfeiriad e-bost), gwybodaeth ddaearyddol (megis eich cod post a’ch etholaeth), a manylion eraill amdanoch chi a’ch diddordebau. Caiff hyn ei ddefnyddio i’n helpu ni i roi gwybodaeth i chi fydd yn cyfateb â’ch diddordebau. Gallwn hefyd ei ddefnyddio i roi gwybod i chi am ymgyrchoedd y gallwch fod â diddordeb ynddynt, a digwyddiadau yn eich ardal.

YMUNO Â’R BLAID AC ADNEWYDDU EICH AELODAETH ARLEIN

Byddwn yn casglu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cwrdd ag amodau aelodaeth a’ch helpu i fanteisio ar y cyfleoedd a roddir trwy fod yn aelod o Blaid Cymru.

GWIRFODDOLI (ADDO EICH CEFNOGAETH)

Byddwn yn gofyn am eich manylion cyswllt, cod post a gwybodaeth am y math o wirfoddoli y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i adnabod cyfleoedd addas i chi wirfoddoli yn y Blaid. Caiff eich manylion eu hanfon ymlaen at y swyddog lleol neu ranbarthol priodol o’r blaid, fydd wedyn yn dod i gysylltiad â chi.

RHOI I’R BLAID

Mae’r wybodaeth y gofynnwn amdano yn cael ei ddefnyddio i brosesu eich rhodd, ac os byddwch yn rhoi mwy na £500, i wirio eich bod ar y gofrestr etholiadol. Os byddwch yn rhoi mwy na £1,500 i Gangen Leol o Blaid Cymru neu fwy na £7,500 i Blaid Cymru yn genedlaethol yn ystod blwyddyn galendr, rhoddir adroddiad am eich enw a swm eich rhodd i’r Comisiwn Etholiadol i gyhoeddi ar eu cofrestr gyhoeddus o roddion i Blaid Cymru. Bydd gwybodaeth am roddion yn cael ei storio ar ein cronfa ddata aelodaeth ac yn cael ei ddefnyddio i roi’r newyddion diweddaraf i chi am ymgyrchoedd Plaid Cymru a chyfleoedd eraill i gefnogi’r blaid.

POLISI CWCIS

Beth yw Cwcis

Fel sy’n arferol gyda phob gwefan broffesiynol, bron, mae’r safle hon yn defnyddio cwcis, sef ffeiliau bychan bach sy’n cael eu llawrlwytho i’ch cyfrifiadur, i roi profiad gwell i chi. Mae’r dudalen hon yn disgrifio pa wybodaeth maent yn gasglu, sut yr ydym yn ei ddefnyddio a pham bod angen i ni weithiau storio’r cwcis hyn. Byddwn hefyd yn rhannu sut y gallwch atal y cwcis hyn rhag cael eu defnyddio; fodd bynnag, gall hyn israddio neu ‘dorri’ rhai elfennau o nodweddion y safle.

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am cwcis gweler erthygl Wikipedia am HTTP Cookies...

Sut y byddwn yn defnyddio Cwcis

Yr ydym yn defnyddio cwcis am amrywiaeth o resymau y rhoddir manylion amdanynt isod. Yn anffodus, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes dewisiadau safonol gan y diwydiant i analluogi cwcis heb lwyr analluogi’r nodweddion y maent yn ychwanegu at y safle hwn. Argymhellir eich bod yn gadael pob cwci ymlaen os nad ydych yn siŵr a oes arnoch eu hangen neu beidio rhag ofn eu bod yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaeth y byddwch yn ddefnyddio.

Analluogi Cwcis

Gallwch atal gosod cwcis trwy addasu’r gosodiadau ar eich porwr (gweler Help eich porwr am sut i wneud hyn). Fe ddylech fod yn ymwybodol y bydd analluogi cwcis yn effeithio ar nodweddion y wefan hon a llawer o wefannau eraill y byddwch yn ymweld â hwy. Bydd analluogi cwcis fel arfer hefyd yn golygu analluogi rhai o nodweddion y safle hwn. Argymhellir felly nad ydych yn analluogi cwcis.

Y Cwcis y byddwn yn eu gosod

Byddwn yn defnyddio cwcis pan fyddwch wedi mewngofnodi fel y gallwn gofio’r ffaith hon. Mae hyn yn eich atal rhag gorfod mewngofnodi bob un tro y byddwch yn ymweld â thudalen newydd. Mae’r cwcis hyn fel arfer yn cael eu symud neu eu clirio pan fyddwch yn allgofnodi er mwyn sicrhau y gallwch gyrchu nodweddion ac ardaloedd cyfyngedig yn unig pan fyddwch wedi mewngofnodi.

O bryd i’w gilydd, byddwn yn cynnig arolygon a holiaduron i roi mewnwelediadau i chi, pecynnau cymorth defnyddiol, neu i ddeall ein sylfaen defnyddwyr yn gywirach. Gall yr arolygon hyn ddefnyddio cwcis i gofio pwy sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn arolwg neu i roi canlyniadau manwl gywir i chi wedi i chi newid tudalennau.

Pan fyddwch yn cyflwyno data trwy ffurflen megis y rhai sydd ar dudalennau cyswllt neu ffurflenni sylwadau, gall cwcis gael eu gosod i gofio eich manylion defnyddiwr ar gyfer gohebiaeth yn y dyfodol.

Cwcis Trydydd Parti

Mewn rhai achosion arbennig, byddwn hefyd yn defnyddio cwcis a ddarperir gan drydydd partïon yr ydym yn ymddiried ynddynt. Mae’r adran isod yn rhoi manylion am ba gwcis trydydd parti y gallwn ddod ar eu traws drwy’r safle hon.

Yr ydym hefyd yn defnyddio botymau cyfryngau cymdeithasol a/neu ategion ar y safle hwn fydd yn caniatáu i chi gysylltu â’ch rhwydwaith cymdeithasol mewn amrywiol ffyrdd. I’r rhain weithio, bydd y safleoedd cyfryngau cymdeithasol a ganlyn gan gynnwys Facebook, Twitter, LinkedIn yn gosod cwcis trwy ein safle a all gael eu defnyddio i wella eich proffil ar eu safle neu gyfrannu at y data a ddaliant at wahanol ddibenion a amlinellir yn eu polisïau preifatrwydd.

Mwy o wybodaeth

Gobeithio bod hyn wedi esbonio pethau i chi, ac fel y dywedwyd eisoes, os oes rhywbeth nad ydych yn siwr a ydych ei angen neu beidio, mae fel arfer yn saffach gadael cwcis wedi eu galluogi rhag ofn y bydd yn ymwneud ag un o’r nodweddion yr ydych yn eu defnyddio ar ein safle. Fodd bynnag, os ydych yn dal i chwilio am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni trwy un o’n dewis ddulliau o gysylltu.

GWYBODAETH AM BLANT

Nid yw Plaid Cymru yn prosesu unrhyw fanylion personol gan unigolion dan 14 oed heb gydsyniad rhiant/gwarcheidwad. Mae manylion am unigolion dan 16 yn cael eu prosesu at ddibenion aelodaeth yn unig.

DOLENNI I SAFLEOEDD ERAILL

Mae ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd a gweinyddion eraill. Nid yw Plaid Cymru yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys gwefannau o’r fath.

SUT Y BYDDWN YN GWARCHOD EICH GWYBODAETH

Mae gan ein gwefan gamau diogelwch i warchod rhag colli, camddefnyddio neu newid y wybodaeth dan ein rheolaeth. Mae ein gweinydd mewn amgylchedd diogel dan glo, gyda gwarchodwr ar waith 24 awr y dydd. Pan fyddwch yn cyfrannu ar-lein, byddwn yn defnyddio gweinydd diogel i warchod rhif eich cerdyn credyd a gwybodaeth bersonol arall yn ystod trosglwyddo. Mae’r manylion yn cael eu trosgludo trwy Thawte er mwyn sicrhau diogelwch absoliwt.

DAD-DANYSGRIFIO/HAWL I BREIFATRWYDD

Byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o dderbyn gohebiaeth gennym yn rhwydd a buan. E-bostiwch [email protected] os hoffech danysgrifio o dderbyn cyfoesiadau neu os ydych am i ni ddileu yn barhaol unrhyw wybodaeth bersonol mae’r blaid yn ddal amdanoch.

CYWIRO EICH GWYBODAETH

Os oes angen i chi gywiro’r wybodaeth a ddarparwyd gennych i ni pan wnaethoch danysgrifio i’n rhestr ebost, gallwch wneud hynny trwy’r ffurflen bersonol a ddarperir ar-lein neu trwy e-bostio [email protected]. Os oes angen i chi newid eich cyfeiriad ebost, cofiwch roi gwybod i ni neu newidiwch eich manylion trwy fewngofnodi a chlicio ar ‘fy ngosodiadau’.

CYSYLLTU Â NI AM BREIFATRWYDD

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, y wybodaeth a gasglwyd gennym oddi wrthych ar-lein, arferion y safle neu eich ymwneud â’r wefan hon, cysylltwch â ni trwy glicio yma neu alw ein pencadlys ar 02920 472272.

Mae modd cysylltu â ni ar y cyfeiriad isod:

Tŷ Gwynfor, Marine Chambers, Cwrt Anson Court, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd/Cardiff. CF10 4AL

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.