Ganwyd Elin Jones ym 1966, ac fe'i magwyd ar fferm yn Llanwnnen ger Llambed. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.
Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Economeg, aeth Elin ymlaen i astudio ar gyfer gradd uwch MSc mewn Economeg Wledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweithiodd fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac hefyd yn gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.
Roedd Elin yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth rhwng 1992 a 1999 – hi oedd maer ieuengaf Aberystwyth ym 1997 – 1998.
Yn etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, etholwyd Elin yn Aelod Cynulliad newydd Ceredigion. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, Elin oedd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig a datblygu economaidd. Bu Elin hefyd yn Gadeirydd Cenedlaethol y Blaid rhwng 2000 a 2002.
Yn 2007, sefydlwyd llywodraeth glymblaid 'Cymru'n Un' ac fe benodwyd Elin yn Weinidog Materion Gwledig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd Elin wobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn, ac hefyd gwobr Pencampwr Ffermio Prydain y Farmers Weekly.
Yn 2016, fe etholwyd Elin yn Llywydd y Cynulliad. Yn ei rôl Llywydd, mae Elin wedi arwain ar sefydlu Senedd Ifanc, ymestyn y bleidlais ar gyfer etholiadau yng Nghymru i bobl 16 ac 17 mlwydd oed, a newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru.
Mae Elin wedi parhau i ymgyrchu dros faterion i Geredigion a Chymru, gan gynnwys ysbytai a gwasanaethau iechyd lleol, polisi amaeth a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ar ôl byw yn Aberystwyth am nifer o flynyddoedd mae Elin erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Aberaeron ac ymysg ei diddordebau mae cerddoriaeth, ffilmiau a darllen.