Newyddion diweddaraf
Cyngor Sir Ceredigion yn galw am Ddatganoli Ystad y Goron i Gymru
Ddoe (12 Rhagfyr), cefnogodd Cyngor Sir Ceredigion, sydd dan arweiniad Plaid Cymru, gynnig i ddatganoli Ystad y Goron ‘i gefnogi anghenion cymdeithasol Cymru’ fel ‘mater brys’.
Cafodd y cynnig, a gyflwynwyd gan Catrin M S Davies (Plaid Cymru), ei basio’n ddiwrthwynebiad a galwyd ar yr Arweinydd i bwyso ar Brif Weinidog Cymru i fynnu gweithredu ar unwaith gan Brif Weinidog y DU i drosglwyddo rheolaeth ar Ystâd y Goron i Gymru.
Cynghorwyr Plaid Cymru yn rhoi rhodd ariannol i Fanciau Bwyd Ceredigion
Yr wythnos hon, fel y maent wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrannodd holl gynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion i achos teilwng iawn, sef banciau bwyd y sir. Cyflwynwyd sieciau ym Mhenparcau, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul gan roi £800 i bob banc bwyd i gefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd Ceredigion.
Galw ar Lywodraeth Cymru i adfer campws prifysgol Llambed
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) am eu cynnig i ddod â dysgu israddedig ar eu campws yn Llambed i ben ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae Ben Lake AS ac Elin Jones AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r brifysgol i barhau i ddysgu ar y campws.