Mae Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion yn croesawu ac yn cefnogi'r digwyddiad fydd yn cael ei gynnal ar y Prom yn Aberystwyth ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill : Y Cerrig Mân yn Cofio'r Plant a Laddwyd.
Digwyddiad a fydd yn cofio'r plant a laddwyd yn Gaza ers Hydref y 7fed (gan hefyd gofio'r plant a laddwyd yn Israel ar y 7fed), drwy osod carreg fach i gofio am bob un plentyn a gollwyd yn y gyflafan.
Dywed Alun Williams, cynghorydd Sir Ceredigion a Thre Aberystwyth:
“Ni all unrhyw beth esgusodi’r ymosodiad echrydus gan Hamas ar Hydref 7fed ond mae ymateb Llywodraeth Israel wedi bod yn gwbl anghymesur.”
“Fel rhywun sydd wedi bod i Gaza, mae’n anodd gen i ddychmygu bod y llefydd y bues i’n ymweld â nhw, a lle ddes i ar draws pobl mor groesawgar yn byw mewn amgylchiadau anodd iawn, bellach wedi’u gwastatáu’n llwyr gyda llawer o’u poblogaeth wedi marw neu’n newynu.”
“Mae beth ymddengys fel targedu plant a theuluoedd yn gyfystyr â throsedd rhyfel. Rhaid i'r cylch trais ddod i ben. Rhaid cael cadoediad ar unwaith a gweithredu gan y gymuned ryngwladol i ddod o hyd i ateb sy'n parchu dynoliaeth o bob ochr”.
Ategodd y cynghorydd sir Endaf Edwards:
"Y mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol weithredu er mwyn dod â'r gyflafan yma i ben."
Mae diffyg herio Llywodraeth Israel gan wledydd fel y Deyrnas Gyfunol, wrth iddyn nhw sathru ar gyfraith rhyngwladol gyda'i gweithredoedd milwrol yn erbyn poblogaeth Gaza yn ddychryn gwirioneddol. Mae diffyg gweithredu gan y Gorllewin mewn perygl o danseilio'r holl drefn rhyngwladol sy’n seiliedig ar reolau.
Mae Plaid Cymru wedi nodi bod sifiliaid yn Gaza yn dioddef erchyllterau ofnadwy a dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau dad-ddwysáu a heddwch parhaol a mae ein aelodau seneddol wedi bod yn cydweithio'n drawsbleidiol i annog Llywodraeth y DG i atal trwyddedau allforio ar gyfer trosglwyddo arfau i Israel ar unwaith. Liz Saville Roberts AS:
“Y gwir amdani yw bod dros 30,000 o bobl wedi marw, a miliynau yn llwgu. Ac eto, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ganiatáu cyflenwad arfau, gan barhau â’r lladd.”
Bydd nifer o gynghorwyr Plaid Cymru yn bresennol ar y Prom yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, yn eu plith fydd y Cyng. Catrin M S Davies:
“Rwy'n ategu yr hyn sydd wedi ei ddweud droeon gan ein haelod seneddol Ben Lake sef ein bod ni yn galw am gadoediad di-amod yn unionsyth. Ers Hydref y 7fed mae mwy na 32,000 o bobl Gaza wedi eu lladd a 13,000+ o'r rheiny yn blant (ffynhonnell: Reuters). Rwy'n bwriadu bod yn bresennol i gefnogi'r digwyddiad, i nodi'r erchyllterau yn Gaza, i alw am gadoediad ond hefyd i gefnogi'r gwaith di-flino sy'n cael ei wneud gan grŵp gweithgar iawn o bobl leol ar ran Heddwch ar Waith.”
Dangos 1 ymateb