Cafodd Ben Lake ei ailethol yn Aelod Seneddol Ceredigion ar 12 Rhagfyr 2019.
Ers cael ei ethol am y tro cyntaf yn 2017, mae Ben wedi ennill enw da fel ymgyrchydd lleol egnïol sy’n barod i weithio ar draws llinell plaid er budd ei etholaeth. Cafodd ei enwi’n ‘Politician to Watch’ yng ngwobrau ITV yn 2017, ac yn 2019 fe’i enwebwyd yn AS y Flwyddyn.
Mae wedi ymladd yn barhaus ar ran cymunedau Ceredigion ac wedi bod yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol trwy gydweithio gyda grwpiau lleol ac ymgyrchu ar eu rhan yn San Steffan; mae tipyn wedi'i gyflawni ers cael ei ethol - sicrhau cyllid ar gyfer codiadau ym mhensiynau athrawon, £55 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, gwrthdroi toriadau ‘Barclays’ i fancio gwledig, a sicrhau buddsoddiad i wella gwasanaeth ffôn symudol mewn ardaloedd heb signal ffôn.
Gallwch weld cofnod pleidleisio Ben yma: https://www.theyworkforyou.com/mp/25669/ben_lake/ceredigion
Manylion cyswllt
01570 940333 facebook.com/benlakeceredigion
|
Bryndulais 67 Heol y Bont Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7AB |
Hysbysiad Preifatrwydd
Rydym ni’n cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar sut a pham y byddwn ni'n casglu, yn storio, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu gyda Ben Lake AS neu aelod o'i dîm. Mae hefyd yn esbonio'ch hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â ni neu awdurdodau goruchwylio os oes gennych chi gŵyn.
I lawrlwytho copi o'n hysbysiad preifatrwydd, cliciwch yma.