Mae darpariaeth symudol mewn rhannau o Geredigion wedi gwella’n sylweddol ar ôl i EE ddatgelu heddiw ei bod wedi uwchraddio neu adeiladu mwy na 10 mast yn y sir yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Mae’r gwelliant wedi’i groesawu gan Ben Lake AS Ceredigion.
Mae’r rhan fwyaf o’r mastiau wedi’u hadeiladu neu eu huwchraddio gan EE fel rhan o’r Shared Rali Network (SRN), a buddsoddiad menter £1 biliwn i ymestyn cysylltedd 4G i gymunedau gwledig, gyda’r amcan i gyrraedd 95 y cant o dir y DU erbyn diwedd 2025.
Mae llawer o’r uwchraddio wedi’u lleoli ar ddwy o ffyrdd mwyaf y sir, yr A44 a’r A487.
Mae’r signal symudol wedi gwella ar hyd y A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth, gyda mastiau Bwlch Nant yr Arian, Dyffryn Castell a ger Pumlumon Fawr wedi’u huwchraddio.
Ar y A487, mae’r ddarpariaeth wedi gwella’n sylweddol gyda mastiau newydd neu wedi’u huwchraddio yn Nhal-y-bont, Llanfarian ac Aberarth.
Ardaloedd eraill sy’n gweld darpariaeth newydd neu wedi’i uwchraddio yw Aberteifi, Llangrannog, Llwyndafydd (ger Cei Newydd a Llangwyryfon.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion:
“Ar ôl galw am wella cysyllted ddigidol mewn ardaloedd gwledig, a chefnogi creu’r Shared Rural Network, rwy’n falch clywed am y gwelliant i’r ddarpariaeth yng Ngheredigion
“Mae cysylltedd gwell yn hollbwysig i ardaloedd gwledig fel sydd yng Ngheredigion. Mae’n golygu y gall mwy o drigolion, busnesau ac ymwelwyr wneud galwadau a defnyddio gwasanaethau ar-lein hanfodol wrth symud. Mewn ardaloedd gwledig, gall hefyd fod yn gysur i wybod y gal pobl wneud galwadau ar adegau brys.
Er mwyn cydbwyso’r awydd am well cysylltedd symudol mewn cymunedau gwledig â’r angen i barchu’r tirlun naturiol, gwnaed ymdrechion i leoli’r mastiau mewn ardaloedd cudd, wrth ddarparu’r budd mwyaf i’r llefydd lle mae pobl yn byw, gweithio a theithio.
Daw’r uwchraddio yma ar adeg bwysig i ardaloedd cefn gwlad wrth i ddarparwyr symudol orffen defnyddio rhwydweithiau 3G a 2G. Cyniga cysylltedd 4G y rhwydwaith fwyaf a’r un fwyaf dibynadwy i ardaloedd diarffordd na unrhyw dechnoleg symudol bresennol yn y DDU, a dyna pam mae EE wedi ehangu ei ddarpariaeth 4G mwy na 10,000 cilometr sgwâr yn y bum mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd Greg McCall, Prif Swyddog Rhwydweithiau gyda BT Group: “Mae arfordir Bae Ceredigion ac ardal wyllt Mynyddoedd y Cambrian yn enwog. Mae hefyd yn un o’r ardaloedd mwyaf gwasgaredig ei phoblogaeth yng Nghymru. Bydd yr uwchraddio 4G newydd yma nid yn unig yn galluogi trigolion i gadw mewn cysylltiad a’u diddordebau, ond hefyd bydd busnesau a grwpiau cymunedol yn gallu defnyddio’n rhwydwaith i gynnig gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r nifer fawr o dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal yn flynyddol.
“Wrth uwchraddio mwy na 1,600 o leoliadau gwledig o dan y cynllun Shared Rural Network mor belled, mae EE wedi gwneud mwy na neb i ddarparu cysylltedd symudol pellgyrhaeddol y gall y gymuned wledig ar draws y DU ddibynnu arni.
Dangos 1 ymateb