Cyhoeddi cyllid ar gyfer trafnidiaeth cymunedol
Yr wythnos yma, tra’n gosod y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo arian tuag at ddatblygu syniad trafnidiaeth cymunedol yng nghorllewin Cymru.
Ffermwyr Ceredigion yn iawn i boeni am ddyfodol y sector
Mae ffermwyr Ceredigion, fel rhai ledled Cymru, yn iawn i boeni am ddyfodol y sector. Roedd eu protest yn Aberystwyth yn ddidwyll, yn gadarn ond bonheddig a'r niferoedd yn adlewyrchu cryfder teimlad ffermwyr oherwydd yr heriau sy'n wynebu’r byd amaeth yng Nghymru. Mae llawer o’r heriau’n deillio’n uniongyrchol o benderfyniadau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.
Boed yn Gynllun Ffermio Cynaliadwy, costau mewnbwn fferm gynyddol, effeithiau tanseilio Brexit a chytundebau masnach newydd, rheoliadau NVZ, methiant i fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg - maent i gyd yn brifo’r diwydiant. Ond pan fyddant i gyd yn dod at ei gilydd mae'r effaith gronnus gymaint yn waeth.
‘Rhaid i bobl Palestina gael amddiffyniad llawn gan wledydd sy’n parchu rheolaeth y gyfraith’ - Plaid Cymru
Mae Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw heddiw (dydd Llun 19 Chwefror) ar holl ASau Cymru i bleidleisio o blaid cynnig sy’n galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel.
Gwleidyddion Cymreig yn ymweld â safle ynni dŵr Statkraft Rheidol yn ystod blwyddyn y dathlu.
Croesawodd Statkraft wleidyddion o’r Senedd a’r Tŷ Cyffredin i safle ynni dŵr Rheidol, sy’n dathlu 60 mlynedd ers agoriad swyddogiol y safle yn ystod 2024.
Ben Lake AS yn ymweld â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth
Ar ddydd Gwener (16 Chwefror) ymwelodd Ben Lake AS â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae PAPYRUS (Prevention of Young Suicide) yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl iach a lles emosiynol pobl ifanc. Mae’r elusen genedlaethol PAPYRUS yn ehangu ac mae ganddynt bedair swyddfa ar draws Cymru: yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Conwy ac Aberystwyth.
Prisiau siwrnai trên yn cynyddu er gwaethaf record wael ar foddhad cwsmeriaid a chanslo teithiau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiad o 4.9% ym mhrisiau teithiau rheilffordd yng Nghymru er mwyn cwrdd â chostau cynyddol.
ASau Ceredigion yn cwrdd ag aelodau lleol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i drafod y tymor ysgol
Mae Plaid Cymru wedi diystyru cefnogi diwygio'r flwyddyn ysgol os bydd tymhorau ysgol newydd yn gwrthdaro â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru neu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Ben Lake AS yn ymuno ag Ymgyrch Trawsbleidiol i Agor Mwy o Hybiau Bancio
Mae Ben Lake AS a 56 AS arall wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Nikhil Rathi, Prif Weithredwr y Financial Conduct Authority (FCA), yn ei annog i newid y rheolau ynglŷn â hybiau bancio.
AS Plaid Cymru yn galw am adolygiad o Fformiwla Barnett yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU gyda Stormont
Mae Ben Lake yn dweud bod angen ‘cefnogaeth ariannol ar unwaith’ ar wasanaethau cyhoeddus Cymru
Mae llefarydd y Trysorlys ar ran Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am adolygiad o Fformiwla Barnett i sicrhau bod Cymru’n cael “cyllid teg” yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU bod Gogledd Iwerddon am dderbyn pecyn cyllido o £3.3 biliwn, gan gynnwys dros £1 biliwn wedi’i glustnodi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
AS Ceredigion yn cefnogi ymchwiliad i wasanaethau rheilffordd gwael ar draws canolbarth Cymru
Mae’r Office of Rail and Road wedi lansio ymchwiliad i brydlondeb a dibynadwyedd trenau yn rhanbarth Network Rail Wales & Western yn ystod misoedd olaf y llynedd.
Mae’r ymchwiliad yn dilyn dirywiad parhaus ym mherfformiad y gwasanaeth drenau yn y rhanbarth ar adeg pan fod perfformiad y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr i’w weld yn sefydlogi.