AS Ceredigion yn cwestiynu pennaeth Trafnidiaeth Cymru ar wasanaethau rheilffordd canolbarth Cymru
Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion, wedi disgrifio’r gwasanaeth rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn “ddim gwell na lorri gwartheg”, yn ystod sesiwn gwestiynu gyda Phrif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price.
Yn ystod sesiwn o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, holodd Ben Lake os oedd James Price yn hyderus y byddai’r cynllun i gael gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth a’r Amwythig erbyn Mawrth 2024 yn mynd i gael ei wireddu.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Price y byddai cynnydd seddu ar y gwasanaeth yn digwydd yn “raddol”, ac “erbyn diwedd y flwyddyn” byddai “cynnydd sylweddol mewn seddu ym mhobman.”
Cydnabu Mr Price y gellid gweld oedi mewn gwireddu cynlluniau penodol oherwydd ffactorau fel argaeledd trenau a galluogrwydd Network Rail. Soniodd bod adolygiad o’u hamserlenni yn dilyn Covid yn cael ei gynnal yn ystod yr haf.
Wrth siarad yn ystod sesiwn o’r Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Ben Lake AS:
“Yn benodol ar y lein rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, oes yna broblemau penodol neu waith yn cael ei wneud ar y lein er mwyn gwella dibynadwyedd y gwasanaeth? Mae pobl hefyd yn cwyno yn rheolaidd am nifer y seddu.”
“Rwyf wedi cael profiad o hyn fy hunan, yn enwedig wrth newid yn yr Amwythig, y gallech fod ar wasanaeth arall, ac mae pobl yn llwytho i beth sydd ddim gwell na lorri gwartheg o’r Amwythig i Aberystwyth. Rydym wedi clywed addewidion am stoc rholio newydd ar ddarn canolbarth Cymru o’r fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau ond sydd heb weld golau dydd hyd yn hyn."
Wrth ymateb dywedodd James Price:
“Mae’r rholio stoc newydd yn dal yn digwydd, ac mae hyd yn oed mwy o stoc rholio na drafodwyd yn wreiddiol. Mae ffigyrau hynny yn y cynnwys 67% yn fwy o gerbydau mewn gwasanaeth na heddiw pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.”
Ben Lake: “I fynd nôl at Aberystwyth, pryd ydych chi’n meddwl y bydd gwelliant yn y gwasanaeth? Pryd allwn ni ddisgwyl gwasanaeth bob awr? Pryd allwn ni disgwyl y cerbydau newydd gyda mwy o seddu?
James Price: “Ar y gwasanaeth bob awr rwyf eisiau ysgrifennu atoch ac fe wnaf hynny yn fuan. Wrth sôn am ba mor gyflym bydd pethau yn gwella, yn gyffredinol ar draws Cymru bydd pethau yn gwella yn glou, mae’r sefyllfa wedi gwella’n sylweddol ers 4 wythnos nôl, ac yn bendant o 6 wythnos nôl.”
Ben Lake: Rwyf mewn perygl o swnio fel tiwn gron. Pryd ydych chi’n disgwyl cynnydd yn y seddu ar y gwasanaeth Aberystwyth – Amwythig?
James Price: “Bydd hyn yn digwydd yn raddol. Mewn cyflwyniad i’n prif fwrdd yfory byddaf yn dangos y bydd gwelliant sylweddol mewn seddu ymhobman erbyn diwedd y flwyddyn.
Dangos 1 ymateb