Elin Jones yn croesawu Sioe Frenhinol Ceredigion i’r Senedd

 

Yn lansiad Sioe Frenhinol Cymru yn y Senedd yn ddiweddar, roedd yn bleser gan Elin Jones AS i groesawu cynrychiolwyr Pwyllgor Ceredigion 2024 i’r digwyddiad.

Ceredigion fydd sir noddedig y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf ac mae’r sir yn prysur godi arian ar gyfer y digwyddiad. Ymysg rheini ymunodd ag Elin yn y Senedd roedd Denley a Brenda Jenkins, Llwyddion Sioe’r Cardis, Rowland Davies Cadeirydd Pwyllgor Ceredigion, a Nicola Davies, Cribyn, Cadeiryddes Cyngor Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn braf gweld rhai aelodau o bwyllgor trefnu Sioe’r Cardis 2024 yn y Senedd a dwi’n ymwybodol o’r holl ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu drwy’r sir i godi arian i’r sioe'r flwyddyn nesaf. Mae yna dipyn o gynnwrf yng Ngheredigion ar gyfer 2024, a dwi’n nabod nifer o Gardis bydd hefyd yn gwneud y daith flynyddol i Lanelwedd mewn cwpl o wythnosau i fwynhau’r Sioe.”
 


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2023-07-03 16:02:26 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.