AS Ceredigion yn cefnogi ymchwiliad i wasanaethau rheilffordd gwael ar draws canolbarth Cymru
Mae’r Office of Rail and Road wedi lansio ymchwiliad i brydlondeb a dibynadwyedd trenau yn rhanbarth Network Rail Wales & Western yn ystod misoedd olaf y llynedd.
Mae’r ymchwiliad yn dilyn dirywiad parhaus ym mherfformiad y gwasanaeth drenau yn y rhanbarth ar adeg pan fod perfformiad y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr i’w weld yn sefydlogi.
Treth Cyngor: Llythyr agored gan yr Arweinydd
Annwyl drigolyn Ceredigion,
Ysgrifennaf atoch chi, drigolion a threthdalwyr Ceredigion, yn uniongyrchol i esbonio y sefyllfa ariannol anghredadwy o anodd mae’r Cyngor Sir ynddi ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd pob cynghorydd sir yn wynebu penderfyniadau ar osod cyllideb y flwyddyn nesaf, ac roeddwn am i chi fod yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sydd o’n blaenau. Dwi wedi bod yn gynghorydd sir am dros 10 mlynedd, ac yn Arweinydd y Cyngor am lai na 2 mlynedd. Nid wyf erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol.
Ben Lake AS yn dal ei dir i sicrhau tegwch i ffermwyr
Ar ddydd Llun 22 Ionawr, galwodd Ben Lake AS am arferion masnachu tecach yn y gadwyn cyflenwi bwyd, yn ystod dadl yn San Steffan ar y ‘Groceries Supply Code of Practice’ (GSCOP).
Cafodd y ddadl ei galw ar ol i ddeiseb ddod i law yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r GSCOP a’i wneud yn ofynnol i fanwerthwyr, yn ddieithriad i “Brynu’r hyn y cytunwyd ei brynu, talu’r hyn y cytunwyd ei dalu ac i dalu ar amser”.
Merched Talgarreg yn galw am gadoediad yn Gaza
Ddydd Gwener diwethaf, cyflwynwyd Deiseb Heddwch Merched Talgarreg 2023 i Ben Lake AS ac Elin Jones AS, yn galw am heddwch yn Gaza ac i anrhydeddu cof gwragedd y pentref fu’n gwneud yr un gwaith ganrif yn ôl.
Setliad annigonol i Geredigion gan Lywodraeth Cymru
Cynghorwyr Ceredigion yn siomedig tu hwnt gyda’r cyhoeddiad cyllid
Ynghynt yr wythnos yma, cafodd Cyngor Sir Ceredigion wybod gan Lywodraeth Llafur Cymru beth fydd ei setliad ariannol am y flwyddyn 2024-25. Dim ond 2.6% yw’r setliad a gyhoeddwyd sydd dipyn yn is na chwyddiant, ac sy’n lawer llai na’r ffigwr o 3.1% a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fel isafswm. Derbyniodd Cyngor Casnewydd 4.7% a Chyngor Caerdydd 4.1%.
Plaid Cymru yn cefnogi banciau bwyd
Yn ystod y dyddiau diwethaf mae holl gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi rhoi cyfraniad ariannol at achos teilwng iawn - sef banciau bwyd y sir.
Cyflwynwyd sieciau ym Mhenparcau, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul gan roi cyfanswm £3250 i gefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd Ceredigion.
Cwestiynu rheoleiddwyr dŵr am lygredd yr Afon Teifi
Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, wedi bod yn cwestiynu Prif Weithredwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a Ofwat ynglŷn â’r diffygion difrifol mewn cyfundrefn reoleiddio sydd wedi methu atal carthion anghyfreithlon rhag cael eu gollwng i’r Afon Teifi ers blynyddoedd.
Yn ystod y drafodaeth mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymru, amddiffynnodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddiwr am y diffyg erlyniadau a fu am werth filoedd o ddiwrnodau o ollyngiadau carthion i’r Afon Teifi.
Mae data a lunwyd gan Peter Hammond, mathemategydd a chyn athro ym mhrifysgol UCL yn cadarnhau bod llygredd yr Afon Teifi yn uwch nag unrhyw afon arall yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd olaf yma.
Rhaid i Ddatganiad yr Hydref fynd i’r afael â’r ‘argyfwng anghydraddoldeb’ – Plaid Cymru
‘Mae Plaid Cymru yn gefnogol i deuluoedd sy’n dioddef; mae’n bryd i Lywodraeth y DU ddangos ei bod hi yn poeni hefyd’ – Ben Lake AS
Heddiw (dydd Sul 19 Tachwedd) cyn Datganiad yr Hydref, anogodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, y Canghellor i ddefnyddio’r cyfle i fynd i’r afael â’r ‘argyfwng anghydraddoldeb’ drwy ‘dorri’n llym’ ar ‘drachwant corfforaethol’
Plaid Cymru yn annog ASau Llafur Cymreig i gefnogi’r alwad am gadoediad
Dylai San Steffan ddilyn esiampl y Senedd, medd Liz Saville Roberts
Mae Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi annog ASau Llafur Cymraeg bleidleisio o blaid gwelliant i Araith y Brenin a gyflwynwyd gan yr SNP a chyd-arwyddwyd gan Blaid Cymru yn galw am gadoediad ar unwaith yn Israel a Gaza.
Ben Lake AS yn galw ar fanwerthwyr tanwydd mawr i dorri prisiau i gyd-fynd â chostau is cyfanwerthu
‘Mae’r manwerthwyr tanwydd mwyaf yn mwynhau elw sy’n uwch na’r cyfartaledd mewn cyfnod lle mae cartrefi a busnesau bychan yn ei chael hi’n anodd, Ben Lake AS