Nid oes modd cyfiawnhau ‘anfoesoldeb’ trachwant corfforaethol, medd Ben Lake AS, Llefarydd y Trysorlys Plaid Cymru.
Mae AS Plaid Cymru dros Geredigion a llefarydd y Trysorlys ar ran y blaid, Ben Lake AS, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu methiant i fynd i’r afael â’r argyfwng trachwant yma.
Wrth annerch cynadleddwyr yn Aberystwyth dydd Sadwrn diwethaf (7 Hydref 2023), dywedodd bod yr ymadrodd ‘argyfwng costau byw’ wedi dod yn ‘ystrydeb greulon’ nad yw “bellach yn ysgogi gweithredu na’r ymdeimlad o frys y mae’n ei fynnu”. Yn hytrach, trafododd argyfwng o drachwant, ble mae corfforaethau wedi cynyddu eu helw yn ddigywilydd gan orfodi teuluoedd a busnesau bach i ddelio gyda baich y chwyddiant. Disgrifiodd Ben Lake AS y sefyllfa fel un gwbl anfoesol na ellid ei chyfiawnhau.
Gallai Llywodraeth y DU osod trethi uwch ar gorfforaethau sy’n gwneud elw’n fwy na 120% o’r elw cyfartalog cyn y rhyfel yn Wcráin.
Mae Positive Money yn cyfrifo y byddai efelychu treth ffawdelw Llywodraeth y Weriniaeth Tsiec (ardoll o 60% ar elw banciau sy’n fwy na 120% o’r elw cyfartalog a wnaed rhwng 2018-21, fydd yn cael ei osod am dair blynedd o 2023) yn golygu y gallai £18.4bn gael ei godi o elw pedwar banc mwyaf y DU yn 2023.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Does dim angen i mi eich atgoffa chi o galedwch y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ymadrodd ‘argyfwng costau byw’ wedi dod yn ystrydeb greulon, ond rydyn ni’n parhau i fyw mewn cyfnod cythryblus.
“Mae cymunedau ar draws Cymru wedi gorfod delio gyda chyfres o ddigwyddiadau ‘digynsail’ sydd wedi cymryd lle’n anorfod o reolaidd: dilynwyd amddifadedd yn sgil Brexit gan galedi’r pandemig, a ildiodd yn ei dro i’r argyfwng costau byw.
“Mae’r ymadrodd ‘argyfwng costau byw’ yn syfrdanol. Mae bellach wedi’i wreiddio mor ddwfn yn ein bwletinau newyddion dyddiol a’n sylwebaeth wleidyddol i’r pwynt nad yw bellach yn ysbrydoli unrhyw un i weithredu na chwaith gyda’r synnwyr o frys y mae’n galw amdano.
“Mae’n ddigwyddiad rhyfedd iawn nad yw teuluoedd sy’n byw yn chweched economi fwyaf y byd yn gallu fforddio pethau sylfaenol bywyd. Mae diffyg gwydnwch ariannol yn ein cymunedau a hynny o ganlyniad i flynyddoedd o ddiffyg twf mewn cyflogau yn ogystal â thoriadau i wasanaethau cyhoeddus.”
Ychwanegodd:
“Mae corfforaethau mawr wedi gwaethygu’r argyfwng yn y DU ymhellach, trwy ddiogelu’n ddigywilydd – ac yn wir dyfu – eu helw tra bod teuluoedd a busnesau bach wedi’u gorfodi i ysgwyddo baich llawn chwyddiant.
“Elw corfforaethol oedd y brif ffactor oedd yn gyrru prisiau yn 2022, a dyma fydd yr achos yn 2023 oni bai bod cwmnïau yn cael eu gorfodi i amsugno biliau cyflog cynyddol.
“Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau pennaeth Banc Canolog Ewrop yr haf hwn. Canfu’r OECD bod maint yr elw yn y DU wedi cynyddu bron i chwarter rhwng diwedd 2019 a dechrau 2023.
“Yr hyn sy’n anodd credo yw, yn ystod cyfnod o argyfyngau sy’n cydblethu; o Covid, i Brexit i chwyddiant rhemp, bod corfforaethau mwyaf y DU nid yn unig wedi gwneud elw ond wedi cynyddu hwnnw yn sylweddol.
“Mae’n amhosib amddiffyn y ffaith anfoesol hon, ar adeg pan fo teuluoedd yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd, fod y corfforaethau sy’n dwyn yr elw mwyaf yn cynllunio ar fesuriadau prisiau a fydd, yn ôl Banc Lloegr, ac rwy’n dyfynnu, ‘yn gwneud rhywfaint o gyfraniad at ddyfalbarhad chwyddiant.’
“Ble mae’r arweinyddiaeth gan Lywodraeth y DU? Pa gynlluniau sydd ganddynt i fynd i'r afael â'r fath elw?
“Pam nad oes sôn, fel sydd mewn gwledydd ar draws Ewrop, am osod trethi uwch ar elw’r corfforaethau hyn sy’n fwy na 120% o’r elw cyfartalog cyn y rhyfel yn Wcráin?
“Siawns nad yw ond yn rhesymol gofyn i’r rhai sydd wedi elwa o’r argyfwng hwn i dalu eu cyfran deg, ac i helpu i ysgafnhau’r baich ar bobol gyffredin?
“Rydyn ni’n gwybod bod cyfnod anodd o’n blaenau, a rhaid gwneud yr achos dros ymyrraeth gan y Llywodraeth i sicrhau nad yw trachwant corfforaethol yn ymestyn niwed chwyddiant.”
Dangos 1 ymateb