Newyddion

Ben Lake AS yn ymweld â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth

Ar ddydd Gwener (16 Chwefror) ymwelodd Ben Lake AS â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae PAPYRUS (Prevention of Young Suicide) yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl iach a lles emosiynol pobl ifanc. Mae’r elusen genedlaethol PAPYRUS yn ehangu ac mae ganddynt bedair swyddfa ar draws Cymru: yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Conwy ac Aberystwyth.

Darllenwch fwy
Rhannu

Prisiau siwrnai trên yn cynyddu er gwaethaf record wael ar foddhad cwsmeriaid a chanslo teithiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiad o 4.9% ym mhrisiau teithiau rheilffordd yng Nghymru er mwyn cwrdd â chostau cynyddol.

 

Darllenwch fwy
Rhannu

ASau Ceredigion yn cwrdd ag aelodau lleol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i drafod y tymor ysgol

Mae Plaid Cymru wedi diystyru cefnogi diwygio'r flwyddyn ysgol os bydd tymhorau ysgol newydd yn gwrthdaro â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru neu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Darllenwch fwy
Rhannu

Ben Lake AS yn ymuno ag Ymgyrch Trawsbleidiol i Agor Mwy o Hybiau Bancio

Mae Ben Lake AS a 56 AS arall wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Nikhil Rathi, Prif Weithredwr y Financial Conduct Authority (FCA), yn ei annog i newid y rheolau ynglŷn â hybiau bancio.

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Plaid Cymru yn galw am adolygiad o Fformiwla Barnett yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU gyda Stormont

Mae Ben Lake yn dweud bod angen ‘cefnogaeth ariannol ar unwaith’ ar wasanaethau cyhoeddus Cymru 

Mae llefarydd y Trysorlys ar ran Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am adolygiad o Fformiwla Barnett i sicrhau bod Cymru’n cael “cyllid teg” yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU bod Gogledd Iwerddon am dderbyn pecyn cyllido o £3.3 biliwn, gan gynnwys dros £1 biliwn wedi’i glustnodi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.  

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Ceredigion yn cefnogi ymchwiliad i wasanaethau rheilffordd gwael ar draws canolbarth Cymru

Mae’r Office of Rail and Road wedi lansio ymchwiliad i brydlondeb a dibynadwyedd trenau yn rhanbarth Network Rail Wales & Western yn ystod misoedd olaf y llynedd.

Mae’r ymchwiliad yn dilyn dirywiad parhaus ym mherfformiad y gwasanaeth drenau yn y rhanbarth ar adeg pan fod perfformiad y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr i’w weld yn sefydlogi.

Darllenwch fwy
Rhannu

Treth Cyngor: Llythyr agored gan yr Arweinydd

Annwyl drigolyn Ceredigion, 

Ysgrifennaf atoch chi, drigolion a threthdalwyr Ceredigion, yn uniongyrchol i esbonio y sefyllfa ariannol anghredadwy o anodd mae’r Cyngor Sir ynddi ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd pob cynghorydd sir yn wynebu penderfyniadau ar osod cyllideb y flwyddyn nesaf, ac roeddwn am i chi fod yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sydd o’n blaenau. Dwi wedi bod yn gynghorydd sir am dros 10 mlynedd, ac yn Arweinydd y Cyngor am lai na 2 mlynedd. Nid wyf erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol. 

Darllenwch fwy
Rhannu

Ben Lake AS yn dal ei dir i sicrhau tegwch i ffermwyr

Ar ddydd Llun 22 Ionawr, galwodd Ben Lake AS am arferion masnachu tecach yn y gadwyn cyflenwi bwyd, yn ystod dadl yn San Steffan ar y ‘Groceries Supply Code of Practice’ (GSCOP). 

Cafodd y ddadl ei galw ar ol i ddeiseb ddod i law yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r GSCOP a’i wneud yn ofynnol i fanwerthwyr, yn ddieithriad i “Brynu’r hyn y cytunwyd ei brynu, talu’r hyn y cytunwyd ei dalu ac i dalu ar amser”.

Darllenwch fwy
Rhannu

Merched Talgarreg yn galw am gadoediad yn Gaza

Ddydd Gwener diwethaf, cyflwynwyd Deiseb Heddwch Merched Talgarreg 2023 i Ben Lake AS ac Elin Jones AS, yn galw am heddwch yn Gaza ac i anrhydeddu cof gwragedd y pentref fu’n gwneud yr un gwaith ganrif yn ôl.

Darllenwch fwy
Rhannu

Setliad annigonol i Geredigion gan Lywodraeth Cymru

Cynghorwyr Ceredigion yn siomedig tu hwnt gyda’r cyhoeddiad cyllid

Ynghynt yr wythnos yma, cafodd Cyngor Sir Ceredigion wybod gan Lywodraeth Llafur Cymru beth fydd ei setliad ariannol am y flwyddyn 2024-25. Dim ond 2.6% yw’r setliad a gyhoeddwyd sydd dipyn yn is na chwyddiant, ac sy’n lawer llai na’r ffigwr o 3.1% a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fel isafswm. Derbyniodd Cyngor Casnewydd 4.7% a Chyngor Caerdydd 4.1%. 

Darllenwch fwy
Rhannu

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.

Ymgyrchoedd