Diffyg cynllunio gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar brosiect fferm wynt Sir Benfro
Rhybuddiodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd yn San Steffan heddiw (dydd Gwener 8 Medi) bod Llywodraeth Geidwadol y DU “yn atal ein hymdrechion hinsawdd” ar ôl methu sicrhau “cyfle amhrisiadwy allai hybu economi de-orllewin Cymru.”
Daeth ymyriad Mr Lake yn dilyn y cyhoeddiad nad oedd prosiect gwynt ar y môr blaenllaw Cymru, Erebus, wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn cefnogaeth yn arwerthiant ynni adnewyddol Llywodraeth y DU. Methodd unrhyw gynlluniau gwynt ar y môr dderbyn cytundebau, sy’n peryglu targedau net sero'r DU a thaliadau uwch i ddefnyddwyr.
Mae’r arwerthiant adnoddau adnewyddadwy blynyddol yn ceisio annog buddsoddiad y sector breifat mewn ffynonellau ynni amrywiol drwy “cytundebau i wneud gwahaniaeth” (CfDs). Er hynny, cafwyd trafferth i ddenu cynigion oherwydd prisiau isel ofnadwy'r llywodraeth i gynhyrchwyr, oedd heb ystyried costau cynyddol cynhyrchu a chostau gosod tyrbinau.
Roedd Erebus, y fferm wynt ar y môr i'w chomisiynu yn 2026, yn gyfle blaenllaw i Gymru i roi hwb i'r diwydiant gwynt ar y môr a byddai wedi darparu gwaith a chyfleoedd i bobl leol Sir Benfro ac i'r de-orllewin yn ehangach. Byddai cytundeb arwerthiant llwyddiannus gan Lywodraeth y DU wedi agor y drws i fuddsoddiad preifat er mwyn parhau â’r prosiect.
Mae Ben Lake wedi adleisio'r galwadau gan RenewableUK Cymru ar Lywodraeth y DU i ddiwygio fframwaith y CfD, er mwyn adlewyrchu costau cynhyrchu cynyddol, fyddai'n datgloi buddsoddiad preifat mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Ailadroddodd Mr Lake hefyd alwad ei blaid i ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron i Gymru, gan ddadlau byddai hynny yn galluogi Llywodraeth Cymru i greu strategaeth ddiwydiannol “Gwnaed yng Nghymru” ar gyfer gwynt ar y môr, na fyddai’n cael ei danseilio gan “fethiannau” Llywodraeth y DU.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae newyddion heddiw yn hynod siomedig. Byddai prosiect Erebus, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, wedi agor y ffordd i ddatblygiadau gwynt ar y môr eraill, wedi gostwng taliadau ynni, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i economi de-orllewin Cymru.
“Er gwaetha rhybuddion niferus gan y diwydiant, methodd Llywodraeth y DU ychwanegu costau cynyddol i'r broses arwerthu, gan wneud y prosiect blaenllaw yma yn llai cystadleuol. Ar y llaw arall, ym mis Mai llwyddodd y Llywodraeth Wyddelig greu arwerthiant oedd yn cydnabod costau cyfredol y gadwyn gyflenwi a sicrhau buddsoddiad mewn pedair fferm wynt ar y môr. Mae Cymru yn colli i Iwerddon oherwydd diffyg cynllunio Llywodraeth y DU.
“Gwaetha’r modd mae Llywodraeth y DU nid yn unig yn atal ein hymdrechion hinsawdd ond hefyd yn methu sicrhau cyfleoedd fyddai’n rhoi hwb i economi de-orllewin Cymru. Er mwyn osgoi siomedigaeth yn y dyfodol, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddiwygio fframwaith ei Chytundebau i wneud gwahaniaeth ar frys fel bod prosiectau adnewyddadwy Cymreig yn gallu cystadlu am y buddsoddiad preifat sydd mawr ei angen.
“Mae Plaid Cymru yn galw eto ar ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron i Gymru. Byddai hyn o gymorth i Lywodraeth Cymru i greu strategaeth gwynt ar y môr “Gwnaed yng Nghymru” na fyddai’n cael ei danseilio gan fethiannau Llywodraeth y DU.”
Dangos 1 ymateb