Newyddion

Photograffydd o Alltyblaca yn arddangos yng Nghaerdydd

Mae Elin Jones AS yn falch o’r cyfle i noddi arddangosfa Pete Davis’ yn adeilad y Pierhead, Caerdydd, a lansiodd hi’r digwyddiad yr wythnos yma.

Darllenwch fwy
Rhannu

Agor swyddfa un-ddydd newydd yn Aberteifi

Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS yn falch iawn o gyhoeddi eu fod yn agor swyddfa un-ddydd yng nghanol tref Aberteifi. Y gobaith yw bydd cael presenoldeb rheolaidd yn y dref yn ei wneud yn haws i etholwyr de Ceredigion i drafod eu trafferthion wyneb-yn-wyneb unwaith eto.

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Ceredigion yn croesawu cyflwyniad y Bil Amaethyddiaeth

Yr wythnos yma cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth yn y Senedd. Dyma’r Bil cyntaf erioed i gael ei greu yn bendodol ar gyfer y sector amaethyddiaeth yng Nghymru, sy’n seiliedig ar gyfraniadau ac ymgynghoriadau gyda ffermwyr a busnesau o’r byd amaeth.

Darllenwch fwy
Rhannu

Ymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yn agor


Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad i gasglu adborth gan y rheini sy’n talu ardrethi annomestig ar y newidiadau maent yn bwriadu gwneud i’r cyfraddau.

Darllenwch fwy
Rhannu

Elin Jones yn codi paned i gefnogi bore goffi Macmillan

Ymunodd Elin Jones AS â thîm Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd i nodi digwyddiad codi arian Bore Coffi blynyddol yr elusen.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddarganfod mwy am sut mae Macmillan yng Nghymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal ag ymchwil gan yr elusen ar sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl sy'n byw gyda chanser.

Darllenwch fwy
Rhannu

AS Ceredigion yn beirniadu diffyg manylion i ddefnyddwyr sydd ddim ar y grin yng nghynllun Llywodraeth y DU

Ceredigion yw’r etholaeth sy’n dibynnu fwyaf ar olew gwresogi neu LPG am ynni ar dirmawr Prydain

Mae AS Ceredigion, Ben Lake, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am fethu “gyflwyno pecyn clir a digonol” ar gyfer cartrefi a busnesau sydd ddim ar y grid. 

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd cartrefi sydd ddim yn elwa o’r Gwarant Pris Ynni o £2,500 yn derbyn “taliad ychwanegol o £100 i gartrefi ar draws y DU”.  Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd “cefnogaeth gyfatebol” yn cael ei ddarparu ar gyfer cwsmeriaid annomestig sy’n defnyddio olew gwresogi neu danwydd arall, ond nid ydyn wedi darparu manylion.

Darllenwch fwy
Rhannu

Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

“Hoffwn ymestyn ein cydymdeimladau dwysaf i bawb sy’n galaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

“Yn ystod ei theyrnasiad gwelwyd cyfnod o newid mawr yng Ngheredigion, ac wrth i ni edrych yn ôl ar y 70 mlynedd y bu hi ar yr orsedd, mae’n amlwg ei bod wedi ymroi ei bywyd yn llwyr i wasanaeth a dyletswyddau cyhoeddus. Bu’n driw i’w haddewid cynnar i wasanaethu am oes a gwnaeth hynny gydag urddas.

“Bu'r Frenhines yn symbol cyson yn ein bywydau, ac mae ei cholli yn pery tristwch mawr. Wrth gwrs, ei theulu fydd yn galaru fwyaf ac rydym yn meddwl amdanynt yn y cyfnod trist yma.” 

Elin Jones AS a Ben Lake AS

Rhannu

Yr argyfwng costau byw: beth nesaf?

Mae’r cynnydd yng nghostau ynni a thanwydd yn cael effaith ofnadwy ar aelwydydd a busnesau ar hyn o bryd, ac yn anffodus mae ardaloedd fel Ceredigion yn dioddef yn waeth oherwydd eu natur wledig.  Yn dilyn cynnydd yn y cap pris ynni yn Ebrill, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd rhyw 45% o aelwydydd yng Nghymru yn syrthio i dlodi tanwydd gwirioneddol.   Daw tlodi tanwydd gyda chost:  i gyrhaeddiad addysgiadol, i’r economi, ac i’n gwasanaethau cyhoeddus.  Mae’r peryg i iechyd, lles a hyd yn oed bywyd yn ddifrifol.

Darllenwch fwy
Rhannu

Ben Lake AS yn ymweld â Banc Bwyd Aberteifi

Ymwelodd Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion a Banc Bwyd Aberteifi'r wythnos ddiwethaf. 

Cyfarfu â staff a gwirfoddolwyr i drafod sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar y banc bwyd a’i ddefnyddwyr. 

Mae’r banc bwyd, sy’n rhan o’r Trussell Trust, wedi adleoli i'r hen Co-op ar waelod Quay Street ers 2020, ac mae’n cael ei redeg erbyn hyn fel prosiect cymunedol gan y New Life Church. 

Darllenwch fwy
Rhannu

Pleidleisiwch dros Barc Plascrug! AS yn cefnogi cais am wobr cenedlaethol

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion yn annog cefnogaeth i Barc Plascrug, Aberystwyth fel hoff barc y DU mewn pleidlais gyhoeddus genedlaethol sy’n cael ei threfnu gan elusen mannau agored Fields in Trust www.fieldsintrust.org/favourite-parks

Darllenwch fwy
Rhannu

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.

Ymgyrchoedd