“Hoffwn ymestyn ein cydymdeimladau dwysaf i bawb sy’n galaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
“Yn ystod ei theyrnasiad gwelwyd cyfnod o newid mawr yng Ngheredigion, ac wrth i ni edrych yn ôl ar y 70 mlynedd y bu hi ar yr orsedd, mae’n amlwg ei bod wedi ymroi ei bywyd yn llwyr i wasanaeth a dyletswyddau cyhoeddus. Bu’n driw i’w haddewid cynnar i wasanaethu am oes a gwnaeth hynny gydag urddas.
“Bu'r Frenhines yn symbol cyson yn ein bywydau, ac mae ei cholli yn pery tristwch mawr. Wrth gwrs, ei theulu fydd yn galaru fwyaf ac rydym yn meddwl amdanynt yn y cyfnod trist yma.”
Elin Jones AS a Ben Lake AS
Dangos 1 ymateb