Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS yn falch iawn o gyhoeddi eu fod yn agor swyddfa un-ddydd yng nghanol tref Aberteifi. Y gobaith yw bydd cael presenoldeb rheolaidd yn y dref yn ei wneud yn haws i etholwyr de Ceredigion i drafod eu trafferthion wyneb-yn-wyneb unwaith eto.
Bydd aelod o staff o’r ddwy swyddfa yng Nghastell Aberteifi bob ddydd Llun, a bydd modd gwneud apwyntiad i weld Ben neu Elin, neu ddod i drafod trafferthion gyda’r staff.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Fel eich Aelod Seneddol chi, dwi’n cynrychioli etholwyr o bob cwr o’r sir ac yn rhoi cymorth iddynt ar nifer helaeth o achosion. Mae etholwyr yn dod atai am gymorth gyda thrafferthion yn amrywio o wella diogelwch ffordd yn eu ardal, i myned y gwasananaethau iechyd cywir, a thrafferthion sydd wedi codi wrth iddynt dderbyn gwasanaethau. Mae’n wych mod i a Ben yn gallu gweithio gyda’n gilydd ar ran trigolion Ceredigion, a bydd cael swyddfa un-ddydd yn Aberteifi yn ei wneud yn haws i’n etholwyr yn ne’r sir i gwrdd â ni a’n staff.’
Fel eglurodd Ben Lake AS: ‘Mae Aberteifi yn dref ac yn ganolbwynt pwysig yng Ngheredigion ac rwy’n falch iawn o allu agor swyddfa yn y dref fydd yn caniatau i drigolion godre Ceredigion alw heibio am gyngor a chymorth yn ôl yr angen. Gyda’r heriau enbyd sy’n wynebu teuluoedd a busnesau dros y misoedd nesaf, mae’n bwysig bod etholwyr yn gallu cael mynediad hawdd a di-oed at eu haelodau etholedig a bydd cael presenoldeb rheolaidd yn Aberteifi yn sicrhau hyn.’
I wneud apwyntiad yn Aberteifi, mae croeso i chi gysylltu gyda Swyddfa Elin Jones ([email protected], 01970 624516) neu Swyddfa Ben Lake ([email protected], 01570 940333).
Dangos 1 ymateb