Mae’r cynnydd yng nghostau ynni a thanwydd yn cael effaith ofnadwy ar aelwydydd a busnesau ar hyn o bryd, ac yn anffodus mae ardaloedd fel Ceredigion yn dioddef yn waeth oherwydd eu natur wledig. Yn dilyn cynnydd yn y cap pris ynni yn Ebrill, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd rhyw 45% o aelwydydd yng Nghymru yn syrthio i dlodi tanwydd gwirioneddol. Daw tlodi tanwydd gyda chost: i gyrhaeddiad addysgiadol, i’r economi, ac i’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r peryg i iechyd, lles a hyd yn oed bywyd yn ddifrifol.
Yn y cyd-destun hwn, mae’r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU hyd yma yn druenus o annigonol ac mae dirfawr angen pecyn argyfwng wedi’i ddiweddaru. Mae aelwydydd yn wynebu dewisiadau enbyd ac angen sicrwydd cyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Hydref.
Yn y tymor byr, mae Plaid Cymru wedi galw ar ddychwelyd y pris cap i hyn yr oedd cyn Ebrill – hynny yw, £1,277 y flwyddyn a’i ymestyn i fusnesau bach ac elusennau, sydd wedi’u heithrio ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi galw am ddyblu’r cymorth ariannol i aelwydydd bregus.
Byddem yn gwneud hyn drwy ymestyn ac ôl-ddyddio treth ffawdelw ar gyfer elw gormodol y cwmnïoedd ynni: nid ydynt wedi gwneud dim i ennill yr arian ychwanegol yma, ac mae'n amlwg yn anghyfiawn eu bod wedi elwa ar adeg pan fo cymaint o bobl yn dioddef.
Wrth gwrs mae yna aelwydydd a busnesau na fydd yn elwa o ostyngiad neu rewi’r pris cap, y rheiny nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy ac felly heb eu cynnwys yn y cap pris. Maent wedi wynebu prisiau uchel tu hwnt sy’n cynyddu ar gyflymder. Yn ôl strategaeth ynni canolbarth Cymru a gynigiwyd gan bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, mae cymaint â 72% eiddo yng Ngheredigion ar y prif grid nwy.
Felly, rwyf wedi codi’r materion yma’n gyson gyda Llywodraeth dros y 6 mis olaf, ac ar y 25ain o Fai gofynnais i’r Prif Weinidog os oedd yn ystyried ymestyn y Rural Fuel Duty Relief Scheme i ardaloedd fel Ceredigion er mwyn lleddfu effaith y cynnydd mewn costau ynni ar deuluoedd a hefyd gweithwyr allwedd, fel nyrsys yn y gymuned a gofalwyr:
Yn dilyn hyn, gofynnais i’r Canghellor gadarnhau y byddai cartrefi sydd ddim ar y grid yn elwa o’r ad-daliad ynni £400 gan y Llywodraeth, ac roeddwn yn falch i dderbyn cadarnhad y byddant yn derbyn y cymorth:
Mae’r aelwydydd hyn yn cael eu dal mewn trap pris ynni penodol ac mae’n hanfodol bod cymorth cymesur yn cael ei ddarparu i’r aelwydydd hyn i gyd-fynd ag unrhyw ostyngiad neu rewi yn y cap ar brisiau. Rwyf wedi cefnogi’r Bil a gyflwynwyd gan yr AS yr SNP Dew Hendry, yn y Senedd, The Energy Pricing (Off Gas Grid Households) Bill. Byddai’r Bil yn cynnig amddiffynfa i gartrefi sydd ddim ar y grid drwy fynnu bod Llywodraeth yn DU yn cydweithio gyda Ofgem i ddelio gyda’r mater ar unwaith a gosod amserlen glir i sicrhau nad yw’r cartrefi yma yn gorfod talu mwy am eu hynni am nad ydynt yn derbyn nwy o’r prif gyflenwad.
Gallai Llywodraeth y DU ddewis mecanwaith a fyddai’n sicrhau na chodir mwy ar aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy nag ar aelwydydd heb nwy am yr un nifer o unedau a ddefnyddir.
Yn fwy diweddar, rwyf wedi cwrdd â’r Trysorlys i drafod y posibilrwydd o ymestyn y Rural Fuel Duty Relief Scheme i Geredigion, yn ogystal ag ymestyn y cap pris i gytundebau ynni masnachol. Rwyf hefyd wedi codi’r cwestiwn yma yn y Siambr:
Hyd yma mae’r Trysorlys wedi gwrthod cadarnhau pan fesurau maent am eu cyflwyno, ond byddaf yn codi’r materion yma gyda’r Canghellor newydd.
Yn ystod trafodaeth ehangach ar ddyfodol eiddo sydd ddim ar y grid nwy, rwyf wedi annog Gweinidog y Llywodraeth cyflwyno mesurau cymorth wedi'u targedu i helpu cartrefi nad ydynt ar y grid gyda'u biliau uwch am danwydd a gwresogi. Er gwybodaeth, dyma ddolenni ar gyfer fideo a thrawsgrifiad:
- Low-carbon Off-gas Grid Heating_16.06.2022 - YouTube
- Low-carbon Off-gas Grid Heating - Hansard - UK Parliament
Agwedd arall o fy araith oedd codi’r pwynt bod y mwyafrif o gyflenwyr yn gofyn i gwsmeriaid archebu lleiafswm o 500 litr, sy’n golygu fod yn gost yn anfforddiadwy. Ymatebodd y Gweinidog fel hyn:
“The hon. Member for Ceredigion mentioned the rules around heating oil providers not providing less than 500 litres. I urge him to speak to the UK and Ireland Fuel Distributors Association, which is a helpful trade body. I think the basic problem is that providing small volumes of heating oil is likely to raise fixed costs, and therefore to make an inefficient market with ultimately more expensive provision. His motive is a good one—to try to make heating more affordable, in smaller pieces, for constituents who are facing trouble with their bills—but the perverse impact might be to raise the fixed costs of such deliveries, but I urge him to speak to UKIFDA, which is the real expert.”
Rwyf eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr o UKFIDA, sydd wedi egluro’r sefyllfa: Ar hyn o bryd mae Safonau Masnach yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr olew fesur yn gywir faint o danwydd a ddanfonir i gartref. Fodd bynnag, yn anffodus mewn rhai achosion mae’r dechnoleg sy'n caniatáu manylder o'r fath angen i o leiaf 500 litr i basio drwy'r system. Mae’r gallu i gyflenwi meintiau llai na 500 litr, felly, yn ôl disgresiwn y cyflenwyr.
Yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd yr All Party Parliamentary Group on Fuel Poverty & Energy Efficiency, roeddwn yn falch cael cadeirio trafodaeth oedd wedi’i threfnu gan National Energy Action yn y Senedd ar y 4ydd o Orffennaf. Yn wir, yn ystod y drafodaeth ar Tackling Short-term and Long-term Cost of Living Increases nôl ym mis Mai, roeddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried cynigion National Energy Action ar gyfer tariff cymdeithasol newydd er mwyn amddiffyn y cwsmeriaid mwyaf bregus. Dylai cynnig o’r fath gyd-fynd ag ymdrechion i gynyddu amlygrwydd cynlluniau megis y gronfa cymorth ddewisol, a’r cymorth a gynigir drwyddynt, ac ymestyn y disgownt cartref cynnes a’r taliad tanwydd gaeaf i bob aelwyd incwm isel. Mae trawsgrifiad o’r ddadl, gan gynnwys fy nghyfraniad i’w weld yma:
Bues yn pledio mewn trafodaeth ar y 5ed o Orffennaf am weithredu brys gan y Llywodraeth I gefnogi teuluoedd a busnesau gyda’r cynnydd mewn costau byw:
Rwyf hefyd wedi bod yn siarad mewn dadl oedd yn manylu ar ganlyniadau’r argyfwng costau byw ar ffermwyr a’r sector amaethyddol. Mae’n frawychus bod y gyfradd chwyddiant yn 28.4% yn ôl y mynegai prisiau amaethyddol. O dan y bil cynllun cymorth ynni, mae rhyw £400 yn ddyledus i gartrefi yn yr hydref, ond does dim cadarnhad hyd yma bod ffermdai yn gymwys, oherwydd eu bod yn dueddol o gael cytundebau masnachol yn hytrach na rhai domestig. Mae Adran Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant yn edrych ar opsiynau fydd yn sicrhau na fydd ffermydd yn colli cyfle o dan y cynllun, a gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i gwestiynu’r Llywodraeth hyd nes y bydd datrysiad boddhaol i’r mater yn cael ei gynnig.
- Support for farmers during cost-of-living crisis_12.07.2022 - YouTube
- Cost of Living: Support for Farmers - Hansard - UK Parliament
Rwyf hefyd wedi siarad mewn dadl a alwyd yn benodol i drafod yr argyfwng costau byw yng Nghymru. Trafodwyd nifer o’r materion uchod, yn ogystal â datrysiadau byrdymor posib i’r argyfwng.
- Cost-of-living crisis in Wales_19.07.2022 - YouTube
- Cost of Living Crisis: Wales - Hansard - UK Parliament
Pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r holl fesurau a amlinellir uchod mewn pecyn cymorth brys, rwy’n hyderus y byddai hyn yn helpu i leddfu poen y cynnydd mewn prisiau ynni i aelwydydd ledled y DU.
Dylid defnyddio’r amser hyn hefyd fel cyfle i feddwl yn ehangach a oes angen diwygio sylfaenol ar y system ynni ei hun. Mae’r farchnad ynni wedi methu ag amddiffyn aelwydydd ac os bydd prisiau ynni, fel y mae llawer yn ei ddisgwyl, yn parhau’n gyfnewidiol am gryn amser i ddod, a allwn ni wir fforddio byw gyda’r system fel y mae?
Rhaid gofyn y cwestiwn, pwy mae’r farchnad ynni a’r cwmnïau hynny sy’n cloddio tanwydd ffosiledig yn gwasanaethu? O ystyried bod ynni yn hanfodol ar gyfer goroesi, does bosib nad yw’n iawn fod buddiannau cyfranddalwyr gael eu rhoi uwchlaw anghenion miliynau o ddefnyddwyr yn y DU?
Mae’n rhaid i ni gydnabod natur hanfodol cyflenwad ynni. Dylai’r system hwyluso ac annog arloesedd, dylai fod yn hygyrch i bawb a thrin pawb yn deg, beth bynnag eu hamgylchiadau. Dylai'r rhain fod yn sylfeini ar gyfer ailadeiladu ein system ynni.
Dyna pam y mae Plaid Cymru wedi ei gwneud yn glir mai’r unig ateb hirdymor yw dod â’r pum cwmni ynni mawr i ddwylo cyhoeddus a chynyddu buddsoddiad yn sylweddol mewn ynni gwyrdd ac inswleiddio cartrefi.
Fel yr ydych yn gwybod, o ran y cwmnïau dŵr, yng Nghymru cwmni dielw yw Dŵr Cymru heb gyfranddalwyr, ac mewn perthynas â threnau, mae Llywodraeth Cymru wedi dod a Thrafnidiaeth i Gymru i berchnogaeth gyhoeddus.
Gallaf eich sicrhau fy mod yn parhau i weithio gyda’m cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, ac ar draws y Tŷ, i bwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn rhagweithiol yn ei dull o ymdrin â’r argyfwng costau byw presennol, ac effeithiau andwyol yr argyfwng ar gymunedau gwledig fel ein un ni yng Ngheredigion.
Dangos 1 ymateb