Elin Jones yn codi paned i gefnogi bore goffi Macmillan

Ymunodd Elin Jones AS â thîm Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd i nodi digwyddiad codi arian Bore Coffi blynyddol yr elusen.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddarganfod mwy am sut mae Macmillan yng Nghymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal ag ymchwil gan yr elusen ar sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl sy'n byw gyda chanser.

Mae Bore Coffi blynyddol Macmillan fel arfer yn gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu rhoddi i helpu i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ganser. Mae'r arian yn codi arian hanfodol ar gyfer gwasanaethau Macmillan i wneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda chanser yn gallu cael y cymorth corfforol, emosiynol ac ariannol sydd ei angen arnynt.

Dyma’r 32ain Bore Coffi Macmillan blynyddol ond yn yr un modd â chymaint o elusennau, gwelodd Macmillan gwymp enfawr yn ei incwm codi arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19 a’r argyfwng costau byw.

Dywedodd Elin Jones AS: “Rydym yn gwybod y gall diagnosis o ganser droi byd rhywun wyneb i waered.  Bydd un o bob dau ohonom yn wynebu canser, a bydd yr arian a godir drwy gynnal Bore Coffi Macmillan yn helpu pobl â chanser i fyw eu bywyd mor llawn ag y gallant.

“Mae Macmillan, ochr yn ochr â’n GIG a phartneriaid eraill, yn gweithio’n ddiflino i wneud beth bynnag sydd ei angen i bobl â chanser. Mae'r galw am wasanaethau a chymorth Macmillan yn uchel, tra bod ei incwm ar i lawr. Rwy’n falch iawn o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan, ac i helpu i roi gwybod i bobl am y digwyddiad codi arian pwysig hwn. Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan, ac i gofrestru i drefnu Bore Coffi neu gyfrannu at fore coffi lleol yn y modd sydd fwyaf addas iddyn nhw.”


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2022-09-27 13:51:39 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.