Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion yn annog cefnogaeth i Barc Plascrug, Aberystwyth fel hoff barc y DU mewn pleidlais gyhoeddus genedlaethol sy’n cael ei threfnu gan elusen mannau agored Fields in Trust www.fieldsintrust.org/favourite-parks
Dywedodd Ben Lake AS: “Mae Parc Plascrug yn barc gwych sy’n cael ei drysori gan y gymuned leol a bu’n fan agored hanfodol yn ystod cyfnodau clo Covid.
Mae’r staff yn gwneud gwaith arbennig yn cynnal yr ardal ac mae’r cyfleusterau yn dda ac yn amrywiol. Mae’n llawn haeddu’r wobr yma ac mae pleidleisio’n hawdd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â mi ac yn pwyso ar y botwm a phleidleisio i Parc Plascrug!”
Bu ein parciau lleol yn hafan i gynifer ohonom yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae gwobrau UK’s Favourite Parks yn dathlu cyfraniadau’r ardaloedd hynny i’n cymdogaethau a’n cymunedau. Ond dim pawb sydd â mynediad cyfartal. Mae ymchwil gan Fields in Trust yn dangos bod 2.8 miliwn o bobl ar draws Prydain Fawr yn byw mwy na deg munud o gerdded i’r parc neu fan agored agosaf. Gallai’r sefyllfa waethygu gyda’r diffyg diogelu cyfreithiol rhag gwerthu neu ddatblygu’r ardaloedd yma.
Dywedodd Helen Griffiths, Prif Weithredwr Frields in Trust: “Mae parciau’n gwlad wedi bod yn bwysig yn ystod cyfnod y pandemig, ac mae’n hanfodol ein bod yn eu dathlu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogeli i genedlaethau’r dyfodol. Maen plant a’n hwyrion yn haeddu’r un cyfle a ni i ddefnyddio mannau agored, mae hwn yn amser arwyddocaol i newid ein ffordd o feddwl am gyfraniad ein mannau agored i’n hiechyd, ein lles, ein hamgylchedd ac y pen draw eich dyfodol.”
Mae Parc Plascug ymhlith 354 parc a mannau agored sy’n ymgeisio am wobr UK’s Favourite Park 2022. Mae’n bosib pleidleisio nawr drwy ymweld â www.fieldsintrust.org/favourite-parks bydd y pleidleisio’n cau am 12 y prynhawn ar ddydd Iau 18eg Awst 2022. Bydd y parciau gyda’r mwyaf o bleidleisiau yn Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu henwi fel National Favourites a’r enillydd cyffredinol fydd yr UK’s Favourite Park 2022.
Dangos 1 ymateb