Ymwelodd Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion a Banc Bwyd Aberteifi'r wythnos ddiwethaf.
Cyfarfu â staff a gwirfoddolwyr i drafod sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar y banc bwyd a’i ddefnyddwyr.
Mae’r banc bwyd, sy’n rhan o’r Trussell Trust, wedi adleoli i'r hen Co-op ar waelod Quay Street ers 2020, ac mae’n cael ei redeg erbyn hyn fel prosiect cymunedol gan y New Life Church.
Mae Banc Bwyd Aberteifi wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw am ei wasanaeth yn ystod y misoedd olaf, gyda 777 taleb wedi’u rhannu rhwng 1af Ebrill a’r 26ain Awst 2022. Yn ystod y flwyddyn olaf mae’r tîm yn Aberteifi wedi darparu 1,598 cyflenwad bwyd 3-diwrnod brys i bobl leol.
Am fyw o wybodaeth am fanciau bwyd yng Ngheredigion, ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/resident/coronavirus-covid-19/information-and-resources-for-the-community/ceredigion-foodbanks/
Dywedodd Ben Lake AS:
“Roedd yn dda ymweld â staff a gwirfoddolwyr brwd Banc Bwyd Aberteifi, Mae eu tosturi a’u hymrwymiad yn ganmoladwy, ac rydym mor lwcus yn Aberteifi, ac ar draws Ceredigion, bod cymaint o bobl yn fodlon rhoi o’u hamser er mwyn cefnogi eraill.
"Yn anffodus, mae’r cynnydd mewn biliau a chostau byw yn achosi caledi i nifer fawr o bobl, sy’n cael ei adlewyrchu yn y nifer o atgyfeiriadau i Fanc Bwyd Aberteifi.
"Nid yw’r ffaith bod y fath angen am fanciau bwyd yn un o economïau cyfoethoca’r byd yn achos dathlu, ond does dim amheuaeth fod y gefnogaeth a gynigir gan fanciau bwyd niferus y sir yn cynrychioli’r agweddau gorau o’n cymuned."
Dangos 1 ymateb