Yr wythnos yma cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth yn y Senedd. Dyma’r Bil cyntaf erioed i gael ei greu yn bendodol ar gyfer y sector amaethyddiaeth yng Nghymru, sy’n seiliedig ar gyfraniadau ac ymgynghoriadau gyda ffermwyr a busnesau o’r byd amaeth.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Dwi’n falch bod y Bil Amaethyddiaeth wedi ei gyflwyno i’r Senedd. Mae’n bwysig fod ffermwyr a rheini sy’n gweithio yn y byd amaethyddiaeth yng Ngheredigion yn cymryd amser i ystyried goblygiadau’r bil a sut fydd yn effeithio ar eu busnes. Y cam cyntaf yn y broses o greu deddfwriaeth yw cyflwyno’r Bil, a bydd cyfleoedd i gyflwyno newidiadau fel rhan o’r broses. Nawr yw’r amser i leisio eich barn, a byddwn yn falch o glywed ganddoch.
Bydden i hefyd yn annog ffermwyr a rheini sy’n gweithio yn y byd amaeth yng Ngheredigion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Mae’r ymgynghoriad yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref, a gellir cyflwyno adborth arlein (Sustainable Farming Scheme | GOV.WALES).’
Dangos 1 ymateb