Mae Elin Jones AS yn falch o’r cyfle i noddi arddangosfa Pete Davis’ yn adeilad y Pierhead, Caerdydd, a lansiodd hi’r digwyddiad yr wythnos yma.
Mae arddangosfa ‘City Stories’ yn cynnwys cyfres o luniau o bobl a busnesau dinas Caerdydd, a dynnwyd pum deg mlynedd yn l. Mae’r lluniau’n adlewyrchu cyfnod ac amser sydd wedi newid gymaint yn weledol ac yn ddiwylliannol. Maent yn cynrychioli cyfnod bron i ddwy cenhedlaeth yn ôl bellach, a dyma’r tro cyntaf erioed i’r lluniau gael eu gweld yng Nghaerdydd.
Mae gwaith Pete i’w gweld mewn casgliadau celf cenedlaethol a rhyngwladol. Magwyd Pete yng Nghaerdydd a dechreuodd dynnu lluniau pan oedd yn 11 mlwydd oed. Ar ôl deg mlynedd o weithio fel ffotographydd hysbysebu a ffasiwn, symudodd Pete i Alltyblaca ac o fana mae wedi bod ar nifer o deithiau o gwmpas ynysoedd Prydain.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Mae’n bleser noddi arddangosfa Pete. Mae’r lluniau wedi llwyddo i gofnodi bywyd pobl a busnesau Caerdydd pum deg mlynedd yn ôl. Mae bywyd yn y ddinas wedi newid gymaint, ac mae’r lluniau yma’n helpu i warchod atgofion mwy cymdeithasol o hanes y ddinas.
Mae’r arddangosfa yn adeilad y Pierhead ar agor i’r cyhoedd hyd ddechrau Rhagfyr, a bydden i’n annog trigolion Caerdydd i gymryd y cyfle i ymweld ac i fwynhau gwaith Pete.’
Dangos 1 ymateb