Ceredigion yw’r etholaeth sy’n dibynnu fwyaf ar olew gwresogi neu LPG am ynni ar dirmawr Prydain
Mae AS Ceredigion, Ben Lake, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am fethu “gyflwyno pecyn clir a digonol” ar gyfer cartrefi a busnesau sydd ddim ar y grid.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd cartrefi sydd ddim yn elwa o’r Gwarant Pris Ynni o £2,500 yn derbyn “taliad ychwanegol o £100 i gartrefi ar draws y DU”. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd “cefnogaeth gyfatebol” yn cael ei ddarparu ar gyfer cwsmeriaid annomestig sy’n defnyddio olew gwresogi neu danwydd arall, ond nid ydyn wedi darparu manylion.
Dywedodd Mr Lake ei fod yn poeni y bydd y taliad un-tro o £100 yn “golygu y byddai nifer o gartrefi yn methu cael dau ben llinyn ynghyd, tra bod busnesau ar bigau’r drain yn aros am fanylion”. Ychwanegodd ei fod wedi gobeithio gofyn cwestiynnau i Jacob Rees-Mogg, Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydianol heddiw, ond ni chafodd y cyfle, am fod Mr Rees-Mogg yn cyflwyno datganiad i’w wasg, yn hytrach nag i’r Senedd.
Dywedodd AS Ceredigion Ben Lake:
"Methodd Llywodraeth y DU gyflwyno pecyn clir a digonol heddiw, yn enwedig i gartrefi a busnesau sydd ddim ar y grid.
"Yn ôl ystadegau’r Llywodraeth ei hunan, Ceredigion sy fwya dibynnol ar olew gwresogi neu LPG am ynni ar dirmawr Prydain – 74 y cant. Mae dwsinau o fusnesau a chartrefi wedi ysgrifennu ataf yn gofyn am fanylion ar gyhoeddiad heddiw. Yn anffodus, oherwydd diystyrwch y Llywodraeth hon i graffu, gwadwyd y cyfle i mi ofyn y cwestiynau hyn i'r Gweinidog heddiw.
"Rwy’n ofni y bydd cynnig Jacob Rees-Mogg o £100 ychwanegol yn “golygu y bydd nifer o gartrefi yn methu cael dau ben llinyn ynghyd, tra bod busnesau ar bigau’r drain yn aros am fanylion”
Ychwanegodd llefarydd Ynni Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:
"Mae bron i un ymhob pump cartref yng Nghymru heb ei gysylltu â’r grid, gan godi i bron i hanner yng Ngwynedd a bron i dri chwarter yng Ngheredigion. Unwaith eto nid yw llywodraeth doriaidd San Steffan wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r cartrefi yma.
"Mae’r taliad o £100 mae Rees-Mogg yn ei cynnig i gartrefi sydd yn ddim yn derbyn cefnogaeth drwy’r Gwarant Pris Ynnu yn rhy hwyr. Cododd pris cyfartalog olew gwresogi bron i 25% rhwng Mai 2020 a Mai 2022 – felly mae Plaid Cymru yn erfyn eto ar i Lywodraeth y DU ddarparu yr un cefnogaeth i ddefnyddwyr sydd ddim ar y grid a’r rhai hynny sydd wedi’u cysylltu i’r grid."
Dangos 1 ymateb