Ymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yn agor


Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad i gasglu adborth gan y rheini sy’n talu ardrethi annomestig ar y newidiadau maent yn bwriadu gwneud i’r cyfraddau.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig gwella’r system drwy:

  • wneud cylchredau ailbrisio yn amlach
  • wella llif gwybodaeth rhwng llywodraeth a thalwyr ardrethi
  • rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau
  • adolygu rhyddhadau ac eithriadau
  • darparu mwy o gyfleoedd i amrywio’r lluosydd
  • gwella sut y caiff y swyddogaethau prisio eu gweinyddu
  • mesurau pellach i sicrhau y gall y Llywodraeth barhau i fynd i’r afael ag achosion o bobl yn osgoi talu trethi

Tra bod y newidiadau arfaethedig yma wedi eu creu ochr yn ochr â rhanddeiliaid, mae’r Llywodraeth nawr wedi cychwyn ar broses o ymgynghori, sy’n rhoi cyfle i pawb sy’n talu ardrethi annomestig i roi eu barn ar y newidiadau.

Dywedodd Elin Jones AS: ‘Dwi’n falch fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r system ardrethi annomestig. Mae nifer o fusnesau wedi bod mewn cysylltiad â mi wrth iddynt wynebu anhawsterau gyda’r system, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae’n bryd gwella’r system, ond fydd dim pwrpas diwygio’r system heblaw ei fod yn gweithio’n iawn i’r busnesau sy’n talu’r trethi.

Dwi’n annog busnesau Ceredigion i ddod o hyd i’r amser i edrych ar y newidiadau sy’n cael eu cynnig, ac i roi adborth dryw’r broses arlein (Diwygio Ardrethi Annomestig yng Nghymru | LLYW.CYMRU), cyn iddo gau ym Mis Rhagfyr.’


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2022-09-30 16:55:30 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.