Roedd yn bleser gan Elin Jones AS fynychu digwyddiad i drafod dyfodol meddygfeydd teulu yng Ngheredigion gyda Chymdeithas Feddygol Prydain (British Medical Association) yn y Senedd yn ddiweddar.
Roedd Ms Jones yn arbennig o falch o gael cynnal trafodaeth rhwng Dr Sue Fish o Feddygfa Borth a’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS.
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Elin: “Roedd yn hynod o bwysig fod y Gweinidog Iechyd yn clywed am heriau cynnal meddygfa wledig yn uniongyrchol gan Dr Sue Fish o Feddygfa Borth. Clywodd y Gweinidog pa mor anodd yw hi i ddenu partneriaid newydd i gymryd drosodd meddygfeydd, a phwysigrwydd hyfforddi mwy o feddygon cyffredinol a staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd.
Yn fy marn i, dylai’r Bwrdd Iechyd fod yn datblygu Cynllun Gweithlu Gofal Sylfaenol i Geredigion am y 10 mlynedd nesaf ar y cyd gyda’r meddygfeydd teulu, fel bod gyda ni ddarlun cyflawn o ble mae’r bylchau yn y staff, a sut gellir llenwi’r bylchau yma drwy recriwtio a hyfforddi dros y 10 mlynedd nesaf. Rydym angen cynllunio yn rhagweithiol yn hytrach na gweithredu’n adweithiol, sy’n aml yn dwyn ffrwyth yn rhy hwyr.”
Dangos 1 ymateb