Ynni rhatach a glanach? Rhoi grym yn nwylo ein cymunedau yw’r ateb yn ôl Ben Lake AS

 

Mae Ben Lake wedi galw am fwy o hawliau i gynlluniau ynni cymunedol werthu’r pŵer y maent yn ei gynhyrchu yn uniongyrchol i gwsmeriaid lleol.  

Mae trydan yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau ynni adnewyddol megis gwynt a solar ar draws Cymru. Mae mudiadau amrywiol a gwirfoddolwyr yn rhedeg cynlluniau ynni cymunedol ond ar hyn o bryd, mae’n amhosib prynu’r trydan hwnnw’n uniongyrchol, hyd yn oed pan gaiff ei gynhyrchu’n lleol. Mae’n rhaid i’r ynni hwnnw gael ei brynu trwy gwmnïau cyfleustodau sydd â chysylltiad â’r Grid Cenedlaethol. Mae Ben Lake yn galw am fwy o hawliau i gynlluniau o’r fath i gyflenwi defnyddwyr lleol â thrydan y mae modd iddynt brynu’n uniongyrchol o’u hardal.  

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn honni bod eu Mesur Ynni “yn cyflwyno system ynni sy’n lanach, mwy fforddiadwy ac yn fwy diogel am y tymor hir”. Mae’r Mesur yn adeiladu ar yr ymrwymiadau wnaethpwyd ym mis Ebrill 2022 i Strategaeth Diogelwch Ynni Prydeinig “i fuddsoddi mewn ynni a gynhyrchir gartref a chynnal amrywiaeth a gwytnwch cyflenwad ynni y Deyrnas Gyfunol”. Mae Plaid Cymru yn dadlau nad yw’r Mesur yn llwyddo i wireddu hyn yn llawn, ac felly maent wedi cynnig gwelliant iddo, ar y cyd gyda’r SNP er mwyn ceisio rhoi grym i’r cynlluniau hyn a sicrhau fod y cynhyrchiad o ynni yn agosach at y bobl mae’n ei wasanaethu. 

Byddai’r gwelliant hwn i’r mesur gan Blaid Cymru o fudd i bobl am sawl rheswm gwahanol. Mae prosiectau cymunedol yn hyrwyddo cynhyrchu ynni gwyrdd, fyddai’n golygu gostyngiad mewn allyriadau carbon. Yn ogystal â hyn, gall prynu ynni o gynlluniau lleol ostwng biliau teuluoedd ac unigolion. Mae Ynni Cymru, cwmni a gyllidir yn gyhoeddus i helpu datblygu prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru yn cael ei sefydlu, diolch i gytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn amlwg hefyd, wrth i gynlluniau o’r fath gael eu datblygu, bydd yn cynnig cyfleoedd economaidd i gymunedau ledled Cymru drwy greu swyddi a rhoi hwb i economïau lleol.  

Pwysleisiodd Ben Lake AS cyn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar y Mesur Ynni y byddai gwelliant Plaid Cymru yn “helpu i ostwng allyriadau carbon, ond byddai hefyd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed. All hyn ond bod o fantais i’r amgylchedd a’r economi fel ei gilydd.".


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2023-09-05 13:50:27 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.