Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi arwain galwadau brys yn y Senedd am gyllid i adfer gwasanaeth Fflecsi Bwcabws wedi’r cyhoeddiad bod y gwasanaeth am ddod i ben ar Hydref 31ain.
Mae’r Fflecsi Bwcabws wedi bod yn rhedeg ers 14 o flynyddoedd, yn gwasanaethu ardaloedd gwledig yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. I’r rheiny sydd heb fynediad at geir na’r prif wasanaeth drafnidiaeth, mae’r Fflecsi Bwcabws yn darparu gwasanaeth hanfodol i'w galluogi i gyrraedd pentrefi a threfi eraill er mwyn gweithio, siopa a chael triniaeth feddygol.
Roedd y system yn arfer cael ei gyllido gan Raglen Datblygu Wledig yr Undeb Ewropeaidd, ond ers i'r arian hynny ddod i ben, mae wedi cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r trefniadau cyllido, sicrhaodd Llywodraeth Cymru fysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau yma mor ddiweddar â Gorffennaf 2023 ac roedd rhyw ymdeimlad o obaith fod y sefyllfa’n gwella. Er hyn, cyhoeddwyd wythnos diwethaf y byddai’r gwasanaeth yn dod i ben ar yr 31ain o Hydref 2023. Yn dilyn y cyhoeddiad, bu’r ymateb yn un pryderus yn y cymunedau gwledig. Lansiwyd deiseb yr wythnos hon yn galw ar y gwasanaeth i gael ei hachub, ac yn barod mae dros 800 o bobl wedi’i harwyddo.
Cyflwynodd Cefin Campbell gwestiwn brys yn y Senedd ac annog Llywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad. Dywedodd:
“Mae cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro wedi’u synnu gan gyhoeddiad y Llywodraeth bod y cyllid ar gyfer gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben, a bod y gwasanaeth ei hun yn cael ei dorri ddiwedd Hydref. Ers blynyddoedd, mae’r gwasanaeth unigryw hwn wedi bod yn amhrisiadwy i nifer o drigolion ar draws gorllewin Cymru. I ddweud y gwir, mae’r gwasanaeth yn fwy na bws; mewn sawl achos, dyma’r unig ffordd y gall pobl gyrraedd apwyntiadau meddygol, fynd i siopa a chymdeithasu.
Mor eironig yw’r ffaith ein bod yn clywed y Llywodraeth yn dweud dro ar ôl tro mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cysylltu cymunedau, a’r effaith gadarnhaol y caiff hynny ar yr amgylchedd. Y gwir amdani yw bod y gwasanaethau hanfodol yma’n cael eu torri, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, dwi’n eich cymell chi i weithio’n galed i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei hailsefydlu, ac i ddarparu sicrwydd hir dymor ar gyfer y cynllun hollbwysig hwn”
Yn gynharach yr wythnos hon, mynegodd gynrychiolwyr etholedig Ceredigion eu pryderon ynglŷn â thoriadau Llywodraeth Cymru i gyllid y gwasanaeth hefyd.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Siom o’r mwyaf yw clywed bod gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben. Tra bod nifer y defnyddwyr yn ymddangosiadol isel, y gwir amdani yw bod y gwasanaeth yng Ngheredigion yn anadl einioes i'r rhai sydd yn ei defnyddio.
Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu’r cyllid sydd gyda nhw er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n rhwystro ein trigolion rhag gwneud eu tasgau dyddiol, tasgau hanfodol fel teithio i'r gwaith, casglu meddyginiaeth neu brynu bwyd.”
Ychwanegodd Elin Jones AS:
“Mae’n golled ofnadwy i'r teithwyr hynny sy’n gwbl ddibynnol ar y Bwcabws, yn enwedig i'r rheiny sydd heb unrhyw ffordd arall o deithio. Y Bwcabws yw’r unig gyswllt sydd gan rhai pobl at wasanaethau bysus eraill felly ni ddylid tanseilio ei bwysigrwydd fel rhan o’r rhwydwaith yma yng Ngheredigion. Mae’n hanfodol nawr bod pob asiantaeth sy’n gysylltiedig â hyn yn dod at ei gilydd i edrych ar yr holl opsiynau a datrysiadau er mwyn ceisio achub y gwasanaeth gwerthfawr hwn.”
Wrth ymateb i gwestiwn Cefin Campbell, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS:
“Roeddwn i'n flin iawn i glywed bod gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben. Er gwaethaf yr addewidion na fyddai Cymru ar ei cholled ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi methu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth wledig, a gefnogwyd yn y gorffennol gan yr UE. Dydyn ni felly ddim yn medru parhau i gefnogi Bwcabws, ond rydyn ni’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i drafod posibiliadau gwahanol.
Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn gyda’r diwydiant bysus a’r awdurdodau lleol dros yr haf i geisio diogelu cynifer o wasanaethau â phosib a dwi’n falch i ddweud y bydd cyllid ar gyfer y ‘Cardi Bach’ yng Ngheredigion yn parhau fel rhan o gaffael T5 Trafnidiaeth Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda thrafnidiaeth gymunedol ac awdurdodau lleol i weld a oes modd achub elfennau o’r cynllun hwn. Prin oedd y defnydd ohono, ond fel dywedodd ef, roedd yn anadl einioes i'r rheiny a'i defnyddiodd ac mae’n ddrwg iawn gen i ei fod wedi dod i ben.”
Dangos 1 ymateb