Ddydd Gwener diwethaf bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bydd gwasanaeth Fflecsi Bwcabws yn gorffen diwedd mis Hydref eleni, oherwydd diffyg arian.
Mae’r gwasanaeth yn darparu cludiant i drigolion rhai o fannau mwyaf gwledig Ceredigion, ac mae’n ffordd hanfodol o deithio i drigolion sydd heb geir i allu cyrraedd trefi eraill ar gyfer gwaith, siopa, triniaethau a gwasanaethau meddygol. Nawr, oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae trigolion Ceredigion unwaith eto’n wynebu ansicrwydd mawr am deithio ar fws yn y sir.
Dywedodd Ben Lake AS: “Mae’n hynod o siomedig i glywed fod y gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben. Tra bod niferoedd teithwyr efallai’n fach ar bapur, y gwir yw bod y trigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yma yn hollol ddibynnol ar y gwasanaeth yng Ngheredigion.
Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu’r cyllid sydd ganddynt i sicrhau nad ydym yn atal ein trigolion rhag gallu gwneud y pethau hanfodol yn eu bywydau, fel teithio i’r gwaith, siopa bwyd a chasglu meddyginiaethau. Rydym yn galw ar Lee Waters AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros drafnidiaeth i adolygu’r sefyllfa hyn ar frys, gan fod raid i ni ddod o hyd i ffordd o gadw’r gwasanaeth yma i fynd.”
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae hyn yn ergyd galed i’r teithwyr sy’n dibynnu yn llwyr ar y Bwcabws, yn enwedig i’r rheini sydd heb unrhyw ffordd arall o deithio. I nifer y Bwcabws yw’r unig ffordd sydd ganddynt i allu cyrraedd gwasanaethau bws eraill, felly mae angen sicrhau nad ydym yn tanseilio ei bwysigrwydd yma yng Ngheredigion. Mae’n hanfodol nawr fod yr holl asiantaethau yn dod at ei gilydd i ymchwilio i bob datrysiad posibl er mwyn ceisio arbed y gwasanaeth amhrisiadwy yma.”
Dangos 1 ymateb