Mae AS Ceredigion wedi gosod cynnig seneddol yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad brys ar y Lwfans Taliadau Milltiredd ac i ddileu'r cap sy’n gweld gyrwyr yn derbyn cyfradd is os ydynt yn gyrru mwy na 10,000 o filltiroedd mewn blwyddyn dreth.
Mae cyfraddau milltiredd cymeradwy yn cael ei gosod gan CThEF, ond ar hyn o bryd does dim cyfrifiad penodol yn cael ei defnyddio er mwyn gosod y cyfraddau yma. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y cyfraddau yn benderfyniad polisi sy’n cael ei wneud ar ôl ystyried pethau fel cost moduro, y gost i’r pwrs cyhoeddus o newid y cyfraddau a’r sefyllfa gyllidol gyflawn.
Nid yw’r cyfraddau milltiredd cymeradwy wedi ei diweddaru ers 2011 ac mae Plaid Cymru yn dadlau y dylid adolygu’r cyfraddau yma ar fyrder, o ystyried y codiad sylweddol mewn costau moduro, costau tanwydd a chostau cynnal a chadw modur yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae ymchwil gan UNISON yn dangos bod un mewn pump o weithwyr rheng flaen yn gorfod gyrru er mwyn cyflawni eu gwaith, ac mae nifer yn cael eu talu yn sylweddol is na’r cyflog cyfartalog, yn arbennig gweithwyr gofal cymdeithasol.
Dywedodd Ben Lake AS:
"Mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion, mae gyrru pellterau sylweddol yn rhan o ddyletswydd ddyddiol nifer o weithwyr rheng flaen y gwasanaeth cyhoeddus. Felly, mae’n rhesymol bod y gweithwyr yma’n cael eu talu am y pellter a deithiwyd fel rhan o’u gwaith a dylai godi i gyd-fynd â chostau tanwydd cynyddol. Yn anffodus nid yw’r gyfradd wedi cael ei hadolygu ers 2011, sy’n golygu bod gormod o weithwyr rheng flaen, sy’n cynnwys nyrsys cymunedol a gofalwyr yn y cartref, wedi gorfod talu symiau cynyddol yn sgil codiadau yng nghost tanwydd. Mae hyn yn annheg, a dylai Llywodraeth y DU gynnal adolygiad o’r cyfraddau Lwfans Milltiredd er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yn ddigonol.”
“Mae Plaid Cymru hefyd yn bryderus y bydd peidio codi’r cyfraddau milltiredd yn niweidiol iawn i’r sector wirfoddol a gallu elusennau a chymdeithasau trydydd sector i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, sydd yn cael effaith pellgyrhaeddol ar ein cymunedau gwledig."
Dangos 1 ymateb