Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i warchod y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau sy’n gymhorthdal pwysig ar gyfer nifer o wasanaethau bws gwledig Ceredigion.
Mae’r alwad yn dod yn dilyn gohebiaeth gan nifer o gwmnïau bysus sydd wedi mynegi pryderon dros fwriad Llywodraeth Cymru i ddod a’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau i ben, a fydd os caiff ddigwydd, yn gadael miloedd o bobl heb gyswllt i wasanaethau hanfodol.
Cyflwynwyd y Cynllun Brys gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig Cofid-19 yn fis Mawrth 2020. Gan i’r cyhoedd gael eu cynghori i beidio â theithio, daeth incwm cwmnïau bysus i ben. Ers cyflwyno’r cynllun, mae wedi parhau i’w drydedd flwyddyn, sy’n gorffen ar y 31 o Fawrth 2023.
Dim ond yn ddiweddar mae’r gyfradd o deithwyr yng Nghymru sy’n talu llawn gost eu taith wedi dychwelyd i 65%, sef y lefelau cyn cofid, a dim ond 55% o’r rheini sy’n teithio yn rhatach sydd wedi dychwelyd. Mae cyllid y Cynllun Brys felly wedi bod yn rhan annatod o allu awdurdodau lleol a chwmnïau bysus i gynnal gwasanaethau yn ein cymunedau gwledig.
Yn siarad ar ôl i’r mater gael ei godi gan Blaid Cymru yn y Senedd, dywedodd Elin Jones AS: “Mae’r sector fysus yng Ngheredigion, fel yn nifer o rannau eraill Cymru, yn parhau i ddioddef effeithiau’r pandemig. Nid yw cyllid y Cyngor Sir sydd eisoes o dan bwysau mawr yn galluogi iddynt ddarparu’r gefnogaeth ariannol sydd angen ar y cwmnïau bysus, fel gallant gynnal eu gwasanaethau.
Mae angen i’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau barhau ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gan hebddo fydd dyfodol go llwm i’n gwasanaethau a’n cwmnïau bysiau yma. Gyda’r dewis cyfyngedig o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i ni yma yng Ngheredigion, mae sicrhau’r gwasanaethau bws cywir yn orchmynnol i’n trigolion, cymunedau a’n gweithlu. Heb ein gwasanaethau bws gwledig, fydd nifer o’n trigolion ddim yn gallu myned gwasanaethau sylfaenol a fydd nifer yn methu teithio i’w gwaith.”
Dangos 1 ymateb