‘Canlyniadau dinistriol’ os na fydd Llywodraeth y DU yn gohirio’r codiad sylweddol ym mhris tanwydd

Gallai 68% o gartrefi fod mewn tlodi tanwydd o fis Ebrill os na fydd y Canghellor yn oedi’r codiad arfaethedig. 

Mae Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys wedi ysgrifennu at y Canghellor, Jeremy Hunt AS, yn ei rybuddio am y “canlyniadau dinistriol i deuluoedd ar draws Cymru” os na fydd y codiad sylweddol arfaethedig i gostau ynni cartref yn cael ei ohirio. 

Ynghyd â’i gydweithwyr ym Mhlaid Cymru, Liz Saville Roberts AS a Hywel Williams AS, mae wedi rhybuddio y bydd nifer syfrdanol o 67.7% o gartrefi yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd ar ôl Ebrill 2023, os nad fydd y codiad sylweddol i’r Warant Pris Ynni yn cael ei ohirio.   

Mae’r Child Poverty Action Group yn amcangyfrif y bydd 67.7% o gartrefi yn gwario 10%+ o’u hincwm ar ynni ar ôl Ebrill (wedi costau tai).  Mae'r CPAG yn creu amcangyfrifon o dlodi tanwydd cartref yn seiliedig ar ddadansoddiad eilaidd o Arolwg Costau Byw a Bwyd yr SYG. 

O dan y Warant Pris Ynni, mae Llywodraeth y DU yn gosod y prisiau uchaf am nwy a thrydan.  Mae hwn i fod codi 20% yn Ebrill 2023, er bod prisiau cyfanwerthu yn is ar y cyfan. 

Dywedodd Mr Lake bod gohirio’r codiad yn “angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael ei llusgo i dlodi tanwydd.” 

Ysgrifenna Ben Lake AS: 

"Nid yw'r argyfwng costau byw wedi diflannu i bobl yng Nghymru, ac felly rydym yn eich annog i ohirio'r cynnydd o 20% yn y Warant Pris Ynni fel ffordd o amddiffyn llawer rhag caledi ariannol pellach.

"Dangosodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd 35% o oedolion yng Nghymru yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi i dymheredd cyfforddus yn y cyfnod cyn Nadolig diwethaf, y ganran uchaf o unrhyw genedl yn y DU. Roedd hyn cyn y cynnydd arfaethedig o 20% yn yr GPY.  

“Mae’r Child Poverty Action Group yn amcangyfrif nawr bod nifer syfrdanol o 67.&% o gartrefi yn byw mewn tlodi tanwydd ar ôl Ebrill 2023, os na fydd y codiad yn y Warant Pris Ynni yn cael ei ohirio. 

“Mae gohirio unrhyw godiadau pellach yn angenrheidiol nawr er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael ei llusgo i dlodi tanwydd.  Nid yn unig dyma'r penderfyniad cywir ond mae hefyd yn un ymarferol, gan fod disgwyl cwymp yng nghost ynni ar ôl Gorffennaf sy’n golygu y bydd gwariant arfaethedig y Llywodraeth ar y cap yn llawer llai na'r hyn a gyllidwyd, gan ganiatáu i arian fod ar gael ar gyfer gohirio nawr. Bydd cynnal yr GPY hefyd yn helpu i leihau chwyddiant sy'n effeithio'n anghyfartal ar yr aelwydydd tlotaf.  

“Os na fydd gohiriad ac estyniad i’r Cynllun Cefnogi Biliau Ynni o £400, bydd canlyniadau dinistriol i deuluoedd ar draws Cymru a gweddill y DU.  Mae National Energy Action yn rhagweld y bydd nifer y cartrefi sy’n byw mewn tlodi tanwydd ar draws y DU yn codi o 6.7 miliwn i 8.4 o fis Ebrill. 

"Rydym yn eich annog i roi sicrwydd i bobl nawr cyn y Gyllideb ym mis Mawrth ac ymrwymo i gynnal y gyfradd GPY o £2,500 y flwyddyn ar gyfer aelwyd gyffred ar ôl mis Ebrill." 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-02-20 10:24:43 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.