Mae tua 10,000 o adeiladau yng Nghymru yn dal heb gyswllt band eang boddhaol ac mae 10% o ddaear màs y wlad heb wasanaeth 4G o’i gymharu â 8% ar draws y DU cyfan ac mae’r ardaloedd digysylltiad ar eu huchaf yn siroedd gwledig Ceredigion a Phowys.
Tynnodd Ben Lake AS sylw at y materion yma yn ystod Cwestiynau Cymreig yr wythnos hon, gan alw at Lywodraeth y DU i flaenoriaethu ardaloedd yng Ngheredigion sydd heb cyswllt band eang boddhaol a gwasanaeth ffôn gwael pan fyddant yn symud i gam nesa’r Project Gigabit – cymunedau fel Lledrod, Pennant, Talgarreg, Cribyn, Abermeurig, Sarnau a Choed-y-bryn.
Lansiwyd y Project Gigabit yn 2021 ond mae cymunedau yng Ngheredigion yn dal i ddisgwyl buddsoddiad drwy brosiect £5bn Llywodraeth y DU.
Wrth ymateb, cynigiodd y Gweinidog gwrdd â Mr Lake i drafod ei ofidiau ymhellach.
Wrth ymateb dywedodd Ben Lake AS:
“Nid achos rhwystredigaeth yn unig yw cysylltedd digidol gwael, neu rwystr i dderbyn adloniant ar-lein ac ymuno â rhwydweithiau cymdeithasol. Mae hefyd yn tanseilio gallu i gyrraedd gwasanaethau hanfodol, boed y rheiny yn addysgol neu gyfleoedd gwaith, neu yn fwyfwy'r gallu redeg busnes.
"Rydym wedi cael addewid o well cysylltedd digidol ers blynyddoedd, ac er bod pethau wedi gwella mewn rhai ardaloedd, mae gormod lawer o gymunedau yng Ngheredigion yn dal i frwydro â chyflymdra gwael.
"Mae cysylltedd da mor bwysig ag unrhyw wasanaeth arall. Mae’n hanfodol bod yr ardaloedd digysylltiad yma yng Ngheredigion yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o Project Gigabit Llywodraeth y DU. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r Gweinidog yn y dyfodol agos i weld sut y gellir gwireddu hyn.”
Dangos 1 ymateb