Heddiw diolchodd y grŵp ymgyrchu, Power for People, i Ben Lake, AS lleol Ceredigion, am gefnogi cyfraith newydd arfaethedig gyda'r nod o helpu cynlluniau ynni cymunedol, sydd heb weld braidd dim twf yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae ynni cymunedol – ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu gan brosiectau dan berchnogaeth a rheolaeth y gymuned - yn cyfrif am lai na 0.5% o gapasiti gynhyrchu trydan y DU i gyd. Yn ôl y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Seneddol, gallai'r sector dyfu 12-20 gwaith erbyn 2030 gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan bweru 2.2 miliwn o gartrefi ac arbed 2.5 miliwn tunnell o allyriadau CO2 yn flynyddol.
Cadarnhaodd yr adolygiad Net Zero diweddar, a ysgrifennwyd gan y Gwir Anrhydeddus Chris Skidmore AS ac a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, "mae'r sector ynni cymunedol wedi'i esgeuluso'n gymharol gan y llywodraeth" ac mae’n argymell yn gryf y "dylai'r Llywodraeth ymrwymo i'r Bil Trydan Lleol a fyddai'n galluogi prosiectau ynni cymunedol i ddarparu ynni yn uniongyrchol i aelwydydd a busnesau lleol."
Mae grŵp trawsbleidiol o 316 o ASau, gan gynnwys Ben Lake AS, yn cefnogi'r Bil Trydan Lleol, ynghyd â dros 100 o sefydliadau cenedlaethol gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB, CPRE, WWF, Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.
Mae ASau cefnogol, yn ogystal ag Arglwyddi a Barwnesau yn Nhŷ'r Arglwyddi, bellach yn annog y Llywodraeth i gynnwys adrannau'r Mesur Trydan Lleol ym Mesur Ynni'r Llywodraeth, sef y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth ynni am bron i 10 mlynedd ac mae disgwyl iddo ddod yn gyfraith cyn yr haf.
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion,
"Rwy'n falch o gefnogi'r Bil Trydan Lleol, fydd yn awdurdodi ac yn galluogi cwmnïau ynni cymunedol newydd i werthu’r ynni maen nhw'n ei gynhyrchu'n uniongyrchol i bobl leol, gan helpu i gryfhau ein heconomi leol. Rwy'n galw ar y Llywodraeth i'w gefnogi hefyd, trwy ei gynnwys ym mesurau’r Mesur Ynni sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd."
Dywedodd Steve Shaw, Cyfarwyddwr Power for People
"Rydym yn ddiolchgar i Ben Lake am gefnogi ynni cymunedol a'r Mesur Trydan Lleol yn y Senedd. Pe bai'n dod yn gyfraith, byddai'n rhyddhau potensial enfawr ar gyfer ynni glân newydd a rhatach o eiddo’r gymuned, gan wneud ein system ynni'n fwy cadarn ac yn dod â manteision economaidd lleol i'n trefi, pentrefi a dinasoedd."
Mae Power for People yn galw ar y Llywodraeth i gefnogi'r Bil ac i gynnwys mesurau i gefnogi twf cynlluniau ynni cymunedol ym Mesur Ynni'r Llywodraeth sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Hyd yn hyn, nid yw'r Llywodraeth wedi cefnogi mesurau o'r fath. Mae'r ymgyrch yn parhau.
Dangos 1 ymateb