Tra ei bod yn cydnabod fod y Bwrdd Iechyd wedi agor Canolfan Diagnosis Cyflym yn Llanelli, mae Elin Jones yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i agor canolfan ym Mronglais, er mwyn sicrhau fod gwasanaethau diagnosis brys o fewn gwell cyrraedd i drigolion Ceredigion a chanolbarth Cymru.
Ym mis Medi 2022 creodd Rhwydwaith Gancr Cymru fframwaith cenedlaethol o Ganolfannau Diagnosis Cynnar yng Nghymru, er mwyn darparu dull cyfannol ac amserol o ddiagnosis i gleifion heb y symptomau ar gyfer cyfeiriad arferol ble ddrwgdybir cancr.
Creodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ganolfan o’r fath yn Llanelli. Er hyn, i drigolion Ceredigion, yn enwedig rheini sydd ddim yn gyrru, mae’r pellter a’r diffyg dewis o drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu fod teithio i Lanelli yn her.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae’r Ganolfan Diagnosis Cyflym agosaf sydd ar gael i drigolion Ceredigion yn Llanelli, ac mae trigolion o Bowys hefyd yn dibynnu ar y gwasanaeth yma. Mae’n rhy bell i nifer o bobl sydd yn wynebu heriau trafnidiaeth. Rydyn ni gyd yn gwybod taw diagnosis a thriniaeth gynnar sy’n darparu’r cyfle gorau i bobl oresgyn y rhan fwyaf o gancrau. Dwi’n falch fod yna rwydwaith o Ganolfannau Diagnosis Cyflym yn datblygu yng Nghymru, ond mae rhaid sicrhau fod mynediad at y canolfannau yma’n hawdd ac yn deg i bawb. Felly, rwy’n dod a’r angen i agor canolfan o’r fath yn Ysbyty Bronglais at sylw Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.
Mae eisoes gennym dîm gwych o weithwyr meddygol proffesiynol ym Mronglais sy’n gweithio gyda chleifion cancr o ddydd-i-ddydd, ac mae’n gwneud synnwyr llwyr fod Canolfan Diagnosis Cyflym ar gael yno hefyd, er lles trigolion canolbarth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn ymateb y Bwrdd Iechyd.”
Dangos 1 ymateb