Annog y Torïaid a Llafur i gydnabod effaith Brexit ar y cyflenwad bwyd

Mae Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth, wedi annog Llywodraeth y DU a’r wrthblaid i gydnabod effaith ‘digamsyniol’ Brexit ar gyflenwad bwyd y DU.

Tra bo Rishi Sunak yn ceisio perswadio’i feinciau cefn i gefnogi’r cytundeb ar Ogledd Iwerddon, dywedodd Mr Lake bod effaith Brexit yn cael ei deimlo’n fawr gan gwsmeriaid “yn y byd go iawn”.

Dywedodd bod methiant Llywodraeth y DU i fagu gwytnwch i gyflenwad bwyd i’r cartref ers 2016 wedi creu sefyllfa “fregus sy’n methu gwrthsefyll ergydion, ac ychwanegol bod “polisi masnach sy'n gwneud mewnforion i'r DU yn anoddach" a diffyg gweithwyr oherwydd system fewnfudo gyfyngol ôl-Brexit yn golygu bod y DU mewn sefyllfa fregus ddifrifol.

Cyfeiriodd AS Ceredigion at ymchwil gan yr NFU s’yn dangos bod costau ynni uchel, o’i gyfuno â diffyg gweithwyr i gynaeafu wedi arwain at godiadau sylweddol i’r gost o dyfu bwyd yn y DU, gyda’r gost o dyfu tomatos wedi codi gan 27%.

Dywedodd Ben Lake AS:

"Mae'r Blaid Geidwadol unwaith eto wedi ymrannu yr wythnos hon dros burder eu cytundeb Brexit. Yn ôl yn y byd go iawn, mae silffoedd archfarchnadoedd yn wag, ac nid yw’r Ceidwadwyr na Llafur yn barod i gydnabod effaith digamsyniol Brexit ar ein cyflenwad bwyd. Fel y dywedodd cyn Prif Swyddog Gweithredol Sainsbury's y bore 'ma, mae'r sector bwyd wedi cael ei ‘niweidio'n fawr gan Brexit'.

“Ers 2016 dylai Llywodraeth y DU fod wedi bod yn datblygu gwytnwch ein systemau bwyd trwy ddod yn fwy hunan-gynhaliol. Mae’r ddibyniaeth ar gyflenwadau bwyd byd-eang ar gymaint o’n mewnforion yn golygu ein bod mewn sefyllfa fregus sy’n methu gwrthsefyll ergydion – boed yn ddaearwleidyddol, yn ymwneud â’r hinsawdd, cynhyrchu neu logistaidd - sydd y tu hwnt i'n rheolaeth yn llwyr.

“Mae methiant llwyr Llywodraeth y DU i gryfhau’r hunangynhaliaeth honno, ynghyd â pholisi masnach sy'n gwneud mewnforio i'r DU yn anoddach nag i wledydd eraill Ewrop, yn amlygu gwendid y DU o fewn cadwyni cyflenwi byd-eang. Rwyf hefyd yn cefnogi galwadau’r NFU i adolygu cynllun cefnogi ynni Llywodraeth y DU ar gyfer busnesau. Mae Llywodraeth y DU yn peryglu ein cnwd o domatos, ciwcymbr a phupur cartref os na fyddant yn cyflwyno cefnogaeth gref i fusnesau amaethyddol.

“Mae diffyg gweithwyr i gynaeafu, oherwydd system fewnfudo gyfyngol ôl-Brexit wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol yng nghostau tyfu bwyd yn y DU. Yn ôl yr NFU, mae’r gost o dyfu tomatos wedi codi gan 27%.

“Rhaid i ni dod yn fwy hunan-gynhaliol wrth gynhyrchu bwyd. Ni fyddai system mewnfudo hyblyg a pherthynas masnach agos yn gwrth-wneud yr amcan hynny. Yn hytrach mae’n hanfod ar gyfer datblygu gwytnwch yn ein cyflenwad bwyd. Dyna paham mae Plaid Cymru yn credu y dylid ystyrid ail-ymuno â’r farchnad sengl fel ran o ‘ddull rhesymegol a phragmatig i ddatrys y problemau yma.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-02-24 14:53:15 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.