Plannu coeden flodau yng Ngardd Gymunedol Aberporth i 'gysylltu mwy o bobl â byd natur'

Ar ddydd Gwener 10 Chwefror, fel rhan o ymgyrch #GwleddYGwanwyn #BlossomWatch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, plannwyd coeden a hynny er mwyn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur, prydferthwch a hanes, ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r elusen gadwraeth yn gweithio gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd ar draws Cymru yn plannu coed blodau mewn lleoliadau o’u dewis o fewn eu hetholaeth neu ranbarth – gan helpu i ddatblygu mannau blodeuog sy'n parchu lleoliad lleol, ysbryd lle a dod â phobl a natur at ei gilydd.

Pan fyddant wedi sefydlu, bydd y coed yn blodeuo bob gwanwyn, gan ddod â'r olygfa hyfryd o flodau prydferth i fannau cymunedol y genedl gan annog cysylltiad buddiol arferol â natur, diwylliant a gyda’i gilydd

Dywedodd Ben Lake AS: Rwy’n falch i weithio mewn partneriaeth gyda Gardd Gymunedol Aberporth a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn diwrnod Blossom Watch 2023, ac i nodi’r achlysur gyda choeden flodau newydd yng ngardd gymunedol Aberporth.

“Mae Gardd Gymunedol Aberporth a’r Oergell Gymunedol yn fudiadau lleol arbennig sydd defnyddio garddio, tyfu bwyd a rhannu bwyd er mwyn helpu unigolion ddysgu sgiliau newydd, cefnogi datblygiad a hybu iechyd a lles.  Mae gweithgareddau awyr agored ac ailgysylltu â natur yn bwysig i’n hiechyd corfforol a meddyliol.  Mae prosiectau Calon y Gymuned yn Aberporth wedi bod yn hybu lles yn Aberporth er dros 18 mis, ac mae bob amser yn bleser cael cyfle i ymweld â siarad gyda staff, gwirfoddolwyr a’r bobl sy’n manteisio o’r gwaith da.”

 


Dangos 2 o ymatebion

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-02-10 13:10:55 +0000
  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-02-07 12:03:26 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.