Aelodau etholedig Ceredigion yn ymateb i Adolygiad Rhwydwaith Ffyrdd y Llywodraeth

Mae cyhoeddiad yr Adolygiad Ffyrdd gan Lee Waters AS ddoe yn y Senedd yn cynnig agwedd newydd tuag at fuddsoddi mewn ffyrdd yng Ngheredigion. 

Bu i Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ddoe na fydd dau gynllun ar gyfer llefydd pasio ar yr A487 yn Llanrhystud, a rhwng Llanon ac Aberarth yn cael eu hariannu. Ni chymeradwywyd Astudiaeth Gwelliannau i’r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig chwaith. Ond er hyn, mi fydd gwelliannau i gyffordd Dorglwyd, ger Comins Coch yn cael eu gwneud.

Mae manylion yr Adolygiad Ffyrdd fel a ganlyn:

  • Ni ddylai astudiaeth yr A44 Llangurig i Aberystwyth symud ymlaen i gam nesaf y broses, gan fyddai elfennau cost uchel y cynllun yn lledu’r ffordd ac yn annog goddiweddyd, a fyddai’n cynyddu’r defnydd o gerbydau motor preifat, cyflymderau ac allyriadau carbon. Dylir ystyried adnewyddu asedau fel rhan o’r Adolygiad Cwbl Gynhwysfawr o bob cynllun adnewyddu a chynnal. Dylir gwneud gwelliannau annibynnol i’r isadeiledd bysus a theithio llesol cost-ganolog.
  • Ni ddylai’r cynlluniau ar yr A487 Aberarth ac A487 Llanrhystud fynd ymlaen i’r cam nesaf, gan fod yr achos am newid yn wan. Er hyn, dylir ystyried adeiladu llwybr troed/beicio rhwng Llanrhystud ac Aberarth.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cynllun yr A487 Dorglwyd Comins Coch, yn amodol ar ystyriaeth y Panel o ddyluniad y cynllun, yn ddibynnol hefyd ar gymhariaeth y cynllun yn erbyn cynlluniau diogelwch eraill, a’r gallu i ddangos fod y cynllun ymhlith y gorau o’r cynlluniau diogelwch sy’n aros am gyllid

Mae Ben Lake AS ac Elin Jones AS wedi bod yn galw’n gyson am fuddsoddiad mewn llwybrau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Ngheredigion. Os am berswadio pobl i ddefnyddio eu ceir llai, yna dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r ddau aelod etholedig hefyd yn ymgyrchwyr brwd o leihau allyriadau carbon i daclo newid i’r hinsawdd, ond er mwyn gallu gwneud hyn mae angen i bethau gael eu gwneud yn wahanol yn y dyfodol.

Mewn ymateb i’r Adolygiad, dywedodd Elin Jones AS: “Mae’r argyfwng newid hinsawdd yn golygu fod angen ailystyried adeiladu ffyrdd a dwi’n cefnogi’r newid o gynlluniau adeiladu ffyrdd drud i gynlluniau isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus. Dwi’n falch fod cyffordd newydd ar gyfer Dorglwyd wedi ei gymeradwyo gan Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae nifer o ddamweiniau wedi bod ar y rhan yma o’r ffordd, ac mae’n hen bryd i ni weld buddsoddiad a gwelliannau yma. Fydden i’n gobeithio bydd cyllid ar gyfer y cynllun yma ar gael yn haws nawr, wrth i gynlluniau drud ar hyd yr M4 a’r A55 gael eu hatal hefyd.

Cynigwyd y cynlluniau llefydd pasio ar gyfer Llanrhystud ac Aberarth ar yr A487 gan Lywodraeth Cymru sawl blwyddyn yn ôl. Nid oedd llawer o gefnogaeth i’r cynlluniau yn lleol ac mae’n siŵr fyddai’r cynlluniau wedi cynyddu cyflymder y traffig rhwng Llanrhystud, Llanon ac Aberarth. Dwi ddim yn credu bydd nifer o drigolion yn siomedig iawn i weld y cynlluniau yma’n cael eu tynnu nôl a dwi’n cefnogi’r cynnig yn yr Adolygiad i fuddsoddi mewn llwybr cerdded a beicio ar hyd yr A487 yn yr ardal. Yn wir, fydden i’n mynd mor bell a dweud bydden i’n hoffi gweld llwybr teithio llesol ar hyd yr A487 rhwng Aberteifi a Machynlleth.

Ar yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig, mae yna achos pendant i wella diogelwch ar y ffordd yma. Mae’n bosib bod modd gwneud hyn drwy gyflwyno cyfyngiadau cyflymder is, ond dwi hefyd yn credu fod angen gwella a diweddaru isadeiledd y ffordd. Felly, dwi’n falch o weld bydd yr A44 yn cael ei ystyried ar gyfer Adnewyddu Asedau.”

Ychwanegodd Ben Lake AS: “Mae trigolion sy’n byw ar ochr yr A44 a’r A487 yn cysylltu ag Elin a minnau yn rheolaidd i fynegi eu pryderon am y cynnydd mewn maint a chyflymdra’r traffig sy’n teithio drwy eu pentrefi, ac yn codi pryder am ddiogelwch cerddwyr. Am flynyddoedd rydyn ni’n dau wedi ymgyrchu dros welliannau mewn nifer o fannau, a gobeithio bydd cyhoeddiad yr adolygiad yma’n darparu’r sail ar gyfer ymateb mwy cadarnhaol gan y Llywodraeth tuag at cyflwyno mesurau diogelwch yn gyflym a gostyngiadau mewn cyfyngiadau traffig. Mi fyddai mesurau fel hyn yn lawer gwell i’n cymunedau sydd ar hyd y cefnffyrdd, ac ar gyfer safon yr amgylchedd a’n aer.

Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus Ceredigion. Rydym wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru fod ein sector bws a rheilffordd yn wynebu dyfodol bregus ac mae angen buddsoddiad brys.


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2023-02-15 15:18:47 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.