Mae Ben Lake AS wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ail gylch o gyllid ychwanegol er mwyn darparu cefnogaeth i adeiladau sydd heb eu cysylltu â’r rhwydwaith cenedlaethol cyn y gaeaf nesaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddu bydd y gefnogaeth ar gyfer cartrefi a busnesau sydd â chysylltiad â’r rhwydwaith yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, er ar gyfradd is, ond ymddengys bod disgwyl i’r un taliad ar gyfer cartrefi sydd heb eu cysylltu â’r grid cenedlaethol barhau am y 18 mis llawn.
Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cyhoeddi y bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei ymestyn hyd 2024. O Ebrill 2023, bydd cost ynni blynyddol cartref nodweddiadol yn codi i £3,000; amcan arbediad o £500 o’i gymharu â chap pris disgwyliedig Ofgem. Does dim cefnogaeth gyfwerth ar gyfer adeiladau sydd heb eu cysylltu â’r grid.
Yn ystod Cwestiynau Cymru yr wythnos diwethaf, pwysodd Mr Lake ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wthio ei gydweithwyr yn Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a’r Trysorlys i ail ystyried eu safbwynt ar gefnogaeth bellach i adeiladau sydd ddim wedi’u cysylltu â’r grid, a gofynodd am eglurder ynglyn â’r Taliad Tanwydd Amgen cyntaf i gartrefi a busnesau sydd heb eu cysylltu â’r grid ac sydd heb ei dalu hyd yn hyn.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith ddifrifol ar y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn gwybod bod enillion cyfartalog mewn ardaloedd gwledig yn is na’r rhai mewn ardaloedd trefol, a does dim gostyngiad i gartrefi gwledig ar gostau hanfodol fel gwresogi, trafnidiaeth a thai. Yn wir, mae cartrefi mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn costio mwy i’w gwresogi am nad ydynt wedi’u cysylltu â’r grid nwy a heb eu hinsiwleiddio cystal. Mae ardaloedd gwledig hefyd wedi gweld toriadau i’r gwasanaethau bysiau, felly mae pobl yn fwy dibynnol ar eu ceir.
“Mae angen i Lywodraeth y DU roi sicrwydd i gartrefi a busnesau sydd heb eu cysylltu â’r grid y byddant yn derbyn cefnogaeth gyfwerth dros y 12 mis nesa tuag at eu costau gwersogi ac ynni â’r rhai sydd wedi’u cysylltu â’r prif grid nwy.
“Bydd sydd hefyd yn siomedig yw ein bod yn dal yn aros am eglurder llawn gan Lywodraeth y DU ynglŷn â phryd a sut bydd y Taliad Tanwydd Amgen yn cael ei brosesi. Mae cartrefi a busnesau ar draws Ceredigion yn crefu am gefnogaeth i dalu ei biliau ynni sydd heb eu diogeli gan gap pris fel y rhai sydd wedi’u cysylltu â’r grid cenedlaethol.”
Dangos 1 ymateb