Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake ac Aelod y Senedd, Elin Jones yn cynnal dau sesiwn galw heibio er mwyn rhoi cyfle i etholwyr chwilio am gyngor a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bydd nifer o sefydliadau, gan gynnwys cyflenwyr ynni a chyrff elusennol yn bresennol yn y clinigau yma, a byddant yn cael eu cynnal yn:
- Hwb Cymunedol Penparcau, dydd Iau, 10fed o Dachwedd 2022 rhwng 12.30pm a 2.30pn
-
Ystafell Radley, Neuadd y Dref, Aberteifi, dydd Gwener 18fed o Dachwedd 2022 rhwng 12.00pm a 2.00pm
Pwrpas y digwyddiadau yw rhoi gyfle i’r cyhoedd siarad yn uniongyrchol gyda chyflenwyr ynni, cwmnïau cyfleustodau, a mudiadau eraill sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth ar sut i ddygymod gyda’r cynnydd yng nghostau ynni a biliau’r cartref y gaeaf yma.
Wrth siarad cyn y digwyddiad,dywedodd Ben Lake AS:
“Argyfwng costau byw’r DU yw’r prif bryder i nifer ohonom ac rwyf yn awyddus iawn i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu trigolion Ceredigion sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.
"Mae'r argyfwng, a'i effaith ar gymunedau gwledig yn benodol, yn fater rwy'n llafar iawn amdano ar lefel y DU, ar ôl ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin ar sawl achlysur, yn ogystal â gofyn yn gyson i'r Llywodraeth gyflwyno mwy o gefnogaeth i gartrefi nad ydynt ar y grid nwy.
"Bydd y sesiynau galw heibio yma yn gyfle gwych i ddod ag arbenigwyr ar fudd-daliadau, biliau ynni, tai a llawer o bynciau eraill at ei gilydd ac yn caniatáu i drigolion godi eu pryderon gyda mi yn bersonol."
Ychwanegodd Elin Jones AS:
“Mae'r argyfwng costau byw presennol yn cael ei deimlo'n ddifrifol gan bobl ar draws Ceredigion, ac nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl bod nifer o’m hetholwyr o dan bwysau ariannol mawr ar hyn o bryd.
"Rwy'n gobeithio, drwy ddod ag etholwyr a sefydliadau at ei gilydd, y gallwn greu llwyfan sy’n rhoi cyfle i bobl godi a datrys materion y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw parhaus."
Dangos 1 ymateb