Mae Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cadarnhau y bydd camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol yn cael eu gosod yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch Safer Streets y Comisiynydd.
Mae’r Comisiynydd wedi sicrhau cyllid o gronfa Safer Streets y Swyddfa Gartref i ariannu gosod camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol ger Traeth y De, Aberystwyth fel ymyriad i leihau digwyddiadau yn cynnwys camddefnydd cyffuriau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref, yn dilyn codi pryderon gan drigolion lleol yn ystod y misoedd diwethaf.
Ynghyd â chynrychiolwyr etholedig lleol ac aml-asiantaeth, mynychodd Ben Lake AS ddau gyfarfod cyhoeddus gyda thrigolion Ward Rheidol yn gynharach eleni lle tynnwyd sylw at y cynnydd sylweddol mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol a’r camddefnydd o gyffuriau o fewn y ward yn ystod y misoedd diwethaf.
Croesawodd Mr Lake y buddsoddiad yma gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Dywedodd: Rwy’n falch iawn yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion lleol, bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi llwyddo i gyflawni’r buddsoddiad pwysig yma yn y dref.”
“O’m trafodaethau gydag etholwyr, mae’n amlwg fod angen gweithredu lleol ac wedi’i dargedu er mwyn delio gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac felly rwy’n croesawi’r cyhoeddiad y bydd Aberystwyth yn derbyn cyllid o’r Gronfa Safer Streets.
Dywedodd Dafydd Llywelyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu: “Atal niwed i unigolion a chymunedau drwy droseddu, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a bregusrwydd yw un o’m tair blaenoriaeth ac rwy’n falch cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid diweddara yma o gyllid Safer Streets y Swyddfa Gartref.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid i adnabod mentrau penodol fydd yn ceisio sicrhau bod ein cymunedau a’n strydoedd yn amgylcheddau diogel i drigolion.
“Byddwn yn parhau i wrando ar gymunedau lleol a gweithio gyda’n gilydd, fel rhan o grŵp datrys problemau aml-asiantaeth, yn cael ei gydlynu gan Heddlu Dyfed Powys ac asiantaethau eraill i ddatrys problemau ac ymladd yn erbyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn Aberystwyth.”
Dangos 1 ymateb