Oedi i’r gefnogaeth ynni i’r rhai sydd ddim ar y grid yn 'hollol afresymol' – Plaid Cymru

Does dim lle i oedi pellach cyn gwneud taliadau sydd wedi’u haddo ers Medi 2022, meddai Ben Lake AS

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys ac AS Ceredigion, Ben Lake, wedi dweud heddiw (dydd Iau 26 Ionawr) ei bod yn "hollol afresymol" bod aelwydydd gwledig yn dal i aros am gymorth biliau ynni a addawyd ers Medi 2022.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU, Ceredigion yw'r awdurdod lleol sydd fwyaf dibynnol ar danwyddau amgen, fel olew gwresogi ac LPG, ar dir mawr Prydain - sef 74 y cant.

Mae AS Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i drin cymunedau gwledig sydd heb e'u cysylltu â'r prif grid nwy yn deg fel y rhai sy'n dod o dan y Warant Prisiau Ynni.

Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai ceisiadau ar-lein yn agor ym mis Ionawr ar gyfer y cynllun cymorth biliau ynni gwerth £400. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog Ynni a'r Hinsawdd, Graham Stuart wrth Dŷ'r Cyffredin ar 25 Ionawr na fyddai cartrefi heb berthynas i gyflenwr ynni domestig yn gallu gwneud cais am y gostyngiad o £400 tan 27 Chwefror.

Mae Llywodraeth y DU nawr yn dweud y byddai taliadau Cynllun Taliadau Tanwydd Eraill gwerth £200 yn agor ar 6 Chwefror. Dywedodd Mr Lake na ellid oedi pellach a bod rhaid rhyddhau arian i "bob cartref cymwys" ar 6 Chwefror.

Mae AS Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i "osgoi ailadrodd y sefyllfa chwerthinllyd hon yn y dyfodol" trwy ymrwymo nawr i ymestyn y gefnogaeth i aeaf 2023-24, fel y maent eisoes wedi'i wneud i aelwydydd sy'n gysylltiedig â'r grid nwy prif gyflenwad.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys ac AS Ceredigion, Ben Lake:

"Mae'n hollol afresymol, wrth i ni nesáu at fis Chwefror 2023, bod eiddo sydd ddim ar y grid nwy yn dal i aros am gefnogaeth hanfodol addawyd iddynt nôl ym mis Medi 2022. Yn syml, mae'n annheg bod cartrefi sydd ddim ar y grid wedi gorfod aros 6 mis yn hirach i gael cefnogaeth i'w biliau gwresogi o'u cymharu â'r rhai sy'n gysylltiedig â'r prif grid nwy.

"Ni ellir oedi ymhellach, a rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn rhyddhau'r cyllid hwn i bob cartref cymwys ar 6 Chwefror. Mae hyn yn fater brys i ardaloedd gwledig.  Mae 74% o’r eiddo yng Ngheredigion ddim wedi eu cysylltu i'r grid prif gyflenwad nwy - y gyfran uchaf ar dir mawr Prydain Fawr.

"Er mwyn osgoi ailadrodd y sefyllfa chwerthinllyd hon yn y dyfodol, rwy'n annog Llywodraeth y DU unwaith eto i roi eglurder y bydd taliadau cyfatebol yn cyd-fynd ag unrhyw gefnogaeth newydd i gartrefi sy'n gysylltiedig â'r prif gyflenwad nwy i helpu aelwydydd sydd ddim ar y grid gyda'u bil ynni'r gaeaf nesaf.  Mae'r llywodraeth wedi addo cefnogaeth ychwanegol i aelwydydd sy'n gysylltiedig â'r prif grid nwy, ac felly mae ond yn deg ei fod yn gwneud yr un peth ar gyfer cartrefi sydd ddim ar y grid. Byddai ymrwymiad o'r fath yn helpu i leddfu'r pryder cynyddol y mae miloedd o bobl mewn ardaloedd gwledig yn ei deimlo."

Yn ystod Cwestiynau Cymru ddydd Mercher diwethaf, 18 Ionawr, pwysodd Mr Lake Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei gydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Trysorlys i ailystyried eu safbwynt ar gymorth pellach i safleoedd sydd ddim ar y grid, a gofynnodd hefyd am eglurder am y Taliad Tanwydd Arall cyntaf i gartrefi a busnesau sydd ddim ar y grid sydd eto i'w dalu.

Dywedodd Ben Lake AS yn y Tŷ Cyffredin:

"Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd cefnogaeth i gartrefi a busnesau sy'n gysylltiedig â'r prif grid nwy yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, ond mae'n ymddangos y bydd disgwyl i'r rownd sengl o gyllid arall a gyhoeddwyd ar gyfer cartrefi sydd ddim ar y grid bara am y 18 mis llawn.  Ar wahân i'r ffaith bod y taliad cyntaf i gartrefi sydd ddim ar y grid yn dal i’w wneud, a fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwthio cydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Trysorlys ar gyfer ail rownd o gyllid arall i ddarparu cefnogaeth i safleoedd sydd ddim ar y grid cyn y gaeaf nesaf?"


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-01-31 11:44:12 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.