Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion, wedi rhybuddio Llywodraeth y DU bod “tir amaethyddol ffrwythlon” yn cael ei werthu i gorfforaethau gyda’r bwriad o wyrddgalchu eu hallyriadau yn hytrach na bwriad dilys i ostwng ei hôl troed carbon.
Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar y "National Food Strategy and Food Security", amlygodd Ben Lake AS fod y Green Finance Observatory wedi mynegi pryderon am gynlluniau o’r fath, gan rybuddio eu bod yn y bôn ar gyfer galluogi allyriadau'r dyfodol, am ddiogelu twf economaidd ac elw corfforaethol yn hytrach na lliniaru newid hinsawdd, neu hyd yn oed ar gyfer ddileu allyriadau'r gorffennol.
Mae cynlluniau gwrthbwyso carbon yn caniatáu busnesau i fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol ar draws y byd er mwyn cydbwyso eu hôl troed carbon eu hunain. Mae ffermydd teuluol Cymru yn cael eu prynu gan gwmnïau rhyngwladol am gredydau dan gynlluniau megis cynllun masnachu allyriadau'r DU.
Yn ei ymchwiliad "The economic and cultural impacts of trade and environmental policy on family farms in Wales", cafodd y Pwyllgor Materion Cymreig gyflwyniadau gan nifer fawr o sefydliadau, gan gynnwys Hybu Cig Cymru, Cyngor Conwy, NFU Cymru, CLlLC, FUW, Ffederasiynau Clybiau Ffermwyr Ifanc, Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned (CCRI), a'r Tenant Farmers Association (TFA), ac roeddynt oll yn mynegi pryderon am brynu tir fferm yng Nghymru ar gyfer plannu coed i wrthbwyso allyriadau carbon cwmnïau.
Rhybuddiodd Mr Lake hefyd fod angen dybryd i fod yn fwy hunangynhaliol yng nghyd-destun newid hinsawdd, wrth gynhyrchu ffrwythau a llysiau.
Wrth siarad yn y Tŷ Cyffredino dywedodd Ben Lake AS:
"Mae angen cynllunio ac ystyried defnydd tir priodol ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Rwy'n pryderu'n fawr, pan ddaw hi at rai cynlluniau gwrthbwyso carbon, bod tir amaethyddol da mewn gwirionedd yn cael ei werthu i gorfforaethau gyda'r bwriad o wyrddgalchu eu hallyriadau eu hunain yn hytrach na chyfrannu at yr ymdrech genedlaethol o leihau ein hôl troed carbon.
“Yng Ngheredigion, mae gennym ormod o ffermydd oedd â thir amaethyddol da wedi cael eu prynu gan y corfforaethau yma, dim er mwyn gostwng eu hallyriadau ond yn hytrach er mwyn eu gwyrddgalchu, gan eu caniatáu i barhau gyda’u busnes ond yn y broses yn lleihau eu gallu cynhyrchiol.
Yn ei araith, galwodd Mr Lake hefyd am fwy o hunangynhaliaeth yng nghyd-destun newid hinsawdd:
"Wrth edrych i ddyfodol ein diogelwch bwyd, mae newid hinsawdd yn peri risg sylweddol iawn. Rydym ond yn hunangynhaliol hyd at 16% o'r ffrwythau yr ydym yn eu bwyta ac roedd adroddiad gwarantau bwyd DEFRA yn nodi bod pryderon gwirioneddol am argaeledd dŵr ar gyfer cynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn llawer o'r gwledydd y mae'r DU yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd yn enwedig ar y cyhydedd ond hefyd rhanbarth Môr y Canoldir.
“Wrth drafod diogelwch bwyd, rhaid i ni feddwl am dyfu mwy o fwyd ein hunain. Mae chwyddiant bwyd wedi cael effaith brawychus ar deuluoedd ar draws y wlad. Gellid lleddfu nifer o'r bwydydd hyn i ryw raddau, nid yn llwyr ond i ryw raddau, pe byddem yn fwy hunangynhaliol.”
Dangos 1 ymateb