Roedd Elin Jones AS dros Geredigion yn falch o gael mynychu digwyddiad arbennig drefnwyd gan Cynghrair Gwlan Cymreig yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Yn y digwyddiad, a noddwyd gan Cefin Campbell AS Plaid Cymru, cyflwynwyd ystod o brosiectau a chyfleoedd masnachol ar gyfer y sector yn cynnwys arddangosfa ar sut mae Gwlân Cymreig yn cael ei droelli i wneud aur, yn ogystal ag yn cael ei ddefnyddio mewn tecstiliau arloesol, technoleg arddwriaethol a deunydd pacio.
Cyhoeddwyd hefyd y bwriad sydd o greu Grŵp Rhyng-bleidiol yn y Senedd yn benodol ar gyfer Gwlân Cymreig – fydd yn manteisio ar y cyfle i hybu’r sector, wedi iddo dderbyn cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol yn y Senedd.
Dywedodd Elin Jones AS: “Fel gwlad sydd mor adnabyddus am gynhyrchu defaid, dydyn ni ddim wastad wedi manteisio i’r eithaf ar botensial gwlân, ac felly roedd yn dda clywed bod camau positif yn cael eu cymryd gan y Gynghrair Wlân Cymreig, a bod cyfleoedd masnachol a chynnyrch newydd ar gael. Mae’r Gynghrair yn darparu un llais cryf ar gyfer cynhyrchwyr gwlân ac mae ganddynt strategaeth glir ar gyfer defnydd gwlân Cymreig yn y dyfodol. Dwi’n browd iawn o gael mynegi fy nghefnogaeth.”
Dangos 1 ymateb