Unwaith eto, mae AS Ceredigion wedi annog Llywodraeth y DU i roi eglurder am y taliad un tro a addawyd i gartrefi a busnesau'r DU sydd ddim ar y grid prif gyflenwad nwy, ac felly'n dibynnu ar olew gwresogi, nwy LPG, a thanwydd arall i wresogi eu cartrefi.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd taliad un tro o £100 yn cael ei wneud i gartrefi sydd ddim ar y grid ac y bydd y taliad yn sicrhau nad yw cwsmer sy'n defnyddio tanwydd arall yn wynebu cyfradd uwch o dwf yn eu costau gwresogi ers gaeaf diwethaf, o gymharu â'r rhai sy'n defnyddio nwy prif gyflenwad sy'n cael eu cefnogi gan y Warant Prisiau Ynni.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe, ailadroddodd Ben Lake AS ei bryderon os yw’r taliad o £100 y mae'r Llywodraeth wedi'i gynnig ar gyfer aelwydydd yn ddigon, ac anogodd y Canghellor i gyhoeddi rhagor o wybodaeth am amseru a’r mecanwaith i gwblhau’r taliad ar frys. Gofynnodd hefyd i'r Trysorlys gyflwyno cefnogaeth i fusnesau sydd ddim ar y grid ar unwaith.
Dywedodd Ben Lake AS:
"Nid yw’n syndod bod fy nghyfrif ebost yn llawn negeseuon wrth bobl a busnesau bach sy'n poeni am y cynnydd yn eu biliau ynni. Rwyf wedi gweld anfonebau gan etholwyr sy'n defnyddio tanwyddau fel LPG neu olew gwresogi, sy’n dangos bod eu biliau wedi cynyddu 200 y cant y gaeaf hwn. Mae cynnydd o'r fath yn eu rhoi mewn sefyllfa amhosib, ac mae'r sefyllfa'n mynnu gweithredu brys gan y Llywodraeth.
"Dyw’r taliad un tro arfaethedig gan Lywodraeth y DU ddim yn ddigon i ddelio â’r cynnydd mae cartrefi yn ei wynebu. Yr hyn sydd yr un mor bryderus yw ein bod yn dal i aros am fanylion am bryd a sut y bydd yn cael ei dalu, yn ogystal â'r gefnogaeth fydd ar gael i fusnesau sydd ddim ar y grid.
"Rwy'n ofni bod yr ateb a gefais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon ddim yn cynnig y sicrwydd sydd ei wir angen ar deuluoedd a busnesau ar draws Ceredigion. Byddaf yn ailddyblu fy ymdrechion yn y Senedd i sicrhau mwy o gefnogaeth i aelwydydd a busnesau sydd ddim ar y grid nwy, a sicrhau bod y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth am amseru a’r mecanwaith i gwblhau’r taliad ar frys. Yn anffodus, rydym mewn cyfnod o argyfwng go iawn, ac ni all pobl fforddio aros yn hwy."
Dangos 1 ymateb