Cynrychiolwyr lleol yn ymateb i ostyngiad mewn gwasanaethau bysus gwledig

Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS wedi mynegi eu pryderon am y gostyngiadau yng ngwasanaethau bysiau gwledig ledled Ceredigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a gweithredwyr bysiau masnachol i gydweithio i ddod o hyd ffyrdd i gynnal gwasanaethau bws yn y cyfnod hwn o gyllidebau llai.

Cyhoeddodd Mid Wales Travel yn ddiweddar ei fod wedi cael ei orfodi i leihau teithiau’r 512, 301 a 304 o'r 31ain o Ionawr. Gweithredir y gwasanaethau hyn yn fasnachol ac nid ydynt yn derbyn cymhorthdal gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd.

Mae gwasanaeth y 512 wedi cael ei dorri i chwech bws y dydd yn lle 11. Mae'r 301 wedi cael ei dorri i bedwar y dydd yn lle naw. Ac mae'r 304 i lawr i pump bws y dydd yn lle naw.

Mae'r gwasanaeth 585 rhwng Aberystwyth a Thregaron sy’n cael ei redeg gan Evans o Dregaron ar hyn o bryd ac yn cael ei sybsideiddio gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi ei leihau yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd.

Dywedodd Elin Jones AS:

"Rydym yn gwybod bod nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng ar draws Cymru dros y degawd diwethaf. Cafodd y patrwm yma ei gymhethu'n ddifrifol gan bandemig Covid, sydd wedi effeithio yn y pen draw ar hyfywedd gwasanaethau bysiau lleol.

"Ond mae nifer o'n hetholwyr yn trefnu eu bywydau i gyd fynd â gwasanaethau bws lleol, a does gan rai ddim dewis ond dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y newidiadau arfaethedig i'r amserlen a gwasanaethau sydd wedi’u lleihau yn gadael llawer o gymunedau â gwasanaeth bws annigonol neu mewn rhai achosion yn eu gadael yn gwbl ynysig."

Dywedodd Ben Lake AS:

"Rydym yn gwerthfawrogi'r amgylchedd gweithredu heriol sy'n wynebu cwmnïau bysiau lleol a'r cyfyngiadau cyllidebol llym a roddir ar yr Awdurdod Lleol, ond bydd effaith toriadau i’r gwasanaethau bws ar yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd a mwy, yn drafferthus iawn. Boed i deithio i'r gwaith neu fynd i'r ysgol neu apwyntiad ysbyty, mae ein hetholwyr yn dibynnu ar wasanaethau bws ar gyfer teithiau dyddiol hanfodol.

"Rydym yn derbyn y bydd unrhyw ateb yn gofyn am ymdrech wedi'i gydlynu a buddsoddiad gan sawl rhan-ddeiliad er mwyn helpu i lunio a dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau bws er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion unigolion a chymunedau ar draws Ceredigion."

Dywedodd Elin Jones AS:

"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol, gweithredwyr cludiant masnachol a chymunedol i ddod at ei gilydd i ddod o hyd i atebion cynaliadwy er mwyn darparu gwasanaethau bws mwy effeithiol sydd ei angen ar bobl ac i sicrhau nad oes unrhyw ardal yn cael ei adael heb unrhyw wasanaeth o gwbl."


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-01-31 11:48:17 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.