Ben Lake AS yn ymuno â Scope mewn llythyr trawsbleidiol at y Canghellor

Mae Ben Lake AS ynghyd â'r elusen cydraddoldeb anabledd Scope a 40 o ASau Trawsbleidiol ac Arglwyddi wedi ysgrifennu at y Canghellor heddiw yn galw am fwy o gymorth gyda chostau byw.

Mae'r llythyr, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan gynrychiolwyr o'r holl brif bleidiau ar draws y Senedd, yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno tariff cymdeithasol a dwyn ymlaen daliadau costau byw’r gaeaf hwn. Mae ASau a’r Arglwyddi wedi ymuno gyda'i gilydd i anfon neges glir i'r Canghellor, mae angen mwy o gymorth wrth y Llywodraeth ar bobl anabl yng Ngheredigion.

Yn y cyfnod cyn y llythyr trawsbleidiol, anfonodd Scope lythyr agored yn galw am dariff cymdeithasol gyda chefnogaeth bron i 35,000 o bobl ar draws y wlad.

Mae 3 o bob 5 (60%) person anabl yn teimlo bod y Llywodraeth yn anwybyddu pobl anabl a phobl â chyflyrau hir dymor wrth ymateb i’r argyfwng. Mae llythyr Scope yn cyflwyno gofidiau pobl anabl am y costau cynyddol yn uniongyrchol i’r Canghellor er mwyn cael ei ymateb.

Dywedodd Ben Lake AS:

Rwy’n falch i gefnogi ymgyrch Scope am fwy o gymorth costau byw i bobl anabl, ac ysgrifennais heddiw, ynghyd â 40 cydweithiwr, at y Canghellor yn gofyn am weithredu ar frys. Mae angen i’r Llywodraeth wrando a chefnogi pobl anabl ar draws Ceredigion gyda chostau byw cynyddol.

Dywedodd Louise Rubin, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Scope:

Mae’r argyfwng costau byw yn taro pobl anabl yn waethaf. Gall pobl anabl ddim aros am fwy o gefnogaeth wrth y Llywodraeth. Rydym yn ymuno gyda’r ASau a’r Arglwyddi o bob plaid i gymell y Llywodraeth i weithredu nawr i gyflwyno tariff ynni gostyngol neu gymdeithasol ar gyfer pobl anabl.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-02-03 16:38:54 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.